Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Erbyn y byddwch yn darllen y geiriau hyn bydd yn anterth haf a bydd rhai ohonoch wedi bod ar eich gwyliau ac eraill ohonoch yn sôn am fynd. Neu os nad yw'r naill beth na'r llall yn wir amdanoch ni ellwch osgoi'r ymdeimlad mai hwn yw tymor y gwyliau er bod llawer yn cael mwy nac un gwyliau bellach. Ond ceisiaf lunio cyflwyniad i gyfres newydd ar gyfer Cristion a hithau yng nghanol Mai. Ni allaf beidio â sôn am y Gwanwyn, a oedodd beth cyn dod eleni, ond sydd wedi ffrwydro yn wahanol haenau o wyrdd a phob un yn lân ddisglair. Ychwanega haul y bore at amrywiaeth y cyfan. Ond daw'r haf i sangu lliwiau gloewon y gwanwyn fel y dywed Dafydd ap Gwilym: "Dechrau haf llathr a'i sathrai Deigr a'i mag, diagr yw Mai" "Duw ddoeth gadarn a farnai A Mair i gynnal y Mai." Ond i fynd yn ôl at y gwyliau, yn y math o fywyd yr ydym ni'n ei fyw y mae gwyliau'n bwysig. Nid oes bendraw bellach i syniad pobl am y gwyliau delfrydol. Un o'r pethau pwysicaf mewn gwyliau delfrydol yw gallu ymlacio ac y mae pob math o amodau i hynny. Fuaswn i ddim yn gallu ymlacio ar lan môr neu ar lan llyn neu drwy orweddian yn yr haul. Trwy weld a dysgu am bethau y gallwn i ymlacio. Ond yr amrywiaeth yma mewn diddordebau sy'n cyfoethogi bywyd. Daw hynny a ni at y gair canolog yn y gyfres hon o ysgrifau sef GWELD. Nid yw'r rhan ymneilltuol o'r Eglwys erioed wedi rhoi pwyslais mawr ar weld mewn crefydd. Llafar yw'r traddodiad ymneilltuol wedi bod yng Nghymru. Ond nid felly yr oedd Cymru cyn y Diwygiad Protestannaidd. Yr oedd y mynachlogydd ar hyd a lled Cymru yn adeiladau argraffiadol ac atyniadol yn bensaerniol. Ni allai pobl eu hosgoi mwy nag y gallent osgoi'r cestyll. Creai'r eglwys hefyd rhyw fath Goleuo'r Gair gan John Owen o awyrgylch weledol gyda lluniau ar y parwydydd a chenadwrïau mewn ffenestri. Ail gyfeiriwyd y cyfan pan chwalwyd y pwyslais hwn a phan gafwyd cyfieithiad o'r Beibl yn Gymraeg. Ceir enghraifft o ddarn o ffenestr a gadwyd yn Tremeirchion o Anna, mam Mair. Ni lwyddwyd i'w difodi i gyd. Daw lluniau ac adnodau i'r golwg mewn ambell eglwys o dan y gwyngalch.Cynorthwyon oeddynt oll i addoli.Y mae addoli i apelio at yr holl synhwyrau. Mae'n werth dyfynnu sylw William Temple "Ymostwng ein holl natur i Dduw yw addoliad. Bywhau'r gydwybod gan ei sancteiddrwydd ydyw; maethu'r meddwl gyda'i wirionedd; puro'r dychymyg gan ei brydferthwch; yr agor o'r galon i'w gariad; yr ildio o'r ewyllys i'w bwrpas ef-a'r cyfan oll wedi ei ddwyn ynghyd mewn moliant, y teimlad mwyaf anhunanol o fewn gallu natur, ac felly y feddyginiaeth bennaf i'r hunanganolrwydd hwnnw, yr hyn yw ein pechod gwreiddiol a tharddiad pob pechod gweithredol". Nid wy'n sicr erbyn hyn sut y daethom o hyd i Eglwys yr Holl Saint, Tudeley-cum-Capel ond ar wyliau yr oeddem yn Kent ganol Medi 1999. Mae'r adeilad o'r tu allan yn un digon twt ond nid oes ddim yn arbennig ynddo. Cymysgedd o wahanol fathau o gerrig ac o wahanol gyfnodau yw ei hadeiladwaith. Ni wn a fedrwch weld hynny oddi wrth y llun ohoni.Ceir cyfeiriad at adeilad eglwysig ar y llecyn lle saif yr eglwys bresennol mor bell yn ôl â 1080. Bu llawer o waith ar yr adeilad ac yn yr Eglwys trwy'r blynyddoedd ond i'n pwrpas ni, yn 1966 y daeth y trobwynt mawr pan benderfynwyd adnewyddu'r eglwys. Tu ôl i hynny y mae stori drist. Ym mis Medi 1963 collodd merch ifanc oedd â chysylltiad â'r Eglwys, a dwy ferch arall, eu bywyd mewn damwain hwylio ger Rye yn Sussex. Roedd Sarah Venetia, y ferch a foddodd a'i mam, y Foneddiges d'Avigdor Goldsmid wedi bod ar wyliau yn Ffrainc yn 1961 ac wedi bod mewn arddangosfa o waith Marc