Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Golygyddol "BETH MAE'R < EGLWYS YN El WNEUD YNGLYN' Â'R MATER ?" Sawl tro y clywsoch chi'r cwestiwn yna yn cael ei ofyn gan holwr di-glem ar y cyfryngau ? Pan gyfyd argyfwng o ryw fath dau gwestiwn stoc a ofynnir gan holwyr amaturaidd ac mae gormod o lawer o'r rheiny yng Nghymru yw Ar bwy mae'r bai ?' a 'Beth mae'r Eglwys yn ei wneud ynglyn â'r sefyllfa ?'. Ym marn y newyddiadurwyr mae'n rhaid bod rhywun ar fai am bob problem, boed yn glwy, yn llifogydd neu'n ddamwain, ac maent wrth eu bodd gyda'u llwy bren fawr yn taflu'r bai ar unigolyn neu gorff; a gorau oll, wrth gwrs, os gellir awgrymu bod y bai yn gorwedd wrth ddrws y llywodraeth. Dyna beth mae llywodraeth yn dda, beth bynnag Pan gyfwelir â chynrychiolwyr eglwysig ar fater, boed yn broblem bersonol i unigolion neu'n sefyllfa fyd-eang, gallwch fentro cyn pen dim bydd yr holwr yn gofyn, 'Beth mae'r Eglwys yn ei wneud ynglýn â'r sefyllfa ?'. Clywyd y cwestiwn hwn yn ddiweddar, er enghraifft, ar fater clwy'r traed a'r genau a'r diswyddiadau yn y diwydiant dur. Yr awgrym y tu ôl i'r cwestiwn yw fod gan yr Eglwys alluoedd a grym yn union fel cwmnïau masnachol neu'r llywodraeth yn genedlaethol neu'n lleol. Gwyddom y gall llywodraeth ganolog orfodi cyrff i weithredu mewn ffyrdd arbennig ac y gall cwmnïau ddiswyddo gweithwyr neu ddwyn pwysau ar gynhyrchwyr. Ond camgymeriad dybryd yw credu bod gan yr Eglwys alluoedd i weithredu mewn unrhyw fodd cyffelyb. Wrth gwrs y mae rhai pethau y gall, ac y dylai'r Eglwys Gristnogol, fel sawl sefydliad arall, eu gwneud. Clywyd, er enghraifft, am esgobaethau yn agor cronfeydd ariannol i gynorthwyo peth ar amaethwyr a ddioddefodd yn y clwy. Clywyd hefyd am agor llinellau ffôn arbennig er mwyn i rai fu'n teimlo'r straen gael clust i wrando ar eu cwyn. Yn ddiweddar bu eglwysi mewn ardaloedd diwydiannol yn agor eu drysau fel canolfannau er mwyn i rai a gollodd eu gwaith gael man cyfarfod a defnyddiwyd rhai festrïoedd fel mannau i ail-hyfforddi gweithwyr. Rôl yr Eglwysi Heb unrhyw amheuaeth y mae llawer mwy y gallasem ac y dylasem ei wneud yn ymarferol fel eglwysi. Dylem sylweddoli, fodd bynnag, waeth faint a wneir gennym mai ymylol fydd ein cyfraniad yn ymarferol. Camgymeriad ynglyn â natur a swyddogaeth yr Eglwys Gristnogol yw credu bod y gallu a'r adnoddau ganddi i weithredu fel nifer o sefydliadau secwlar. Arall yw cyfraniad yr Eglwys. Y mae gan yr Eglwys awdurdod moesol a berchir hyd yn oed y dyddiau hyn gan lawer yn ein cymdeithas. Pan wneir datganiadau gan ganghennau o'r Eglwys mae'n syndod yr effaith a gânt yn fynych. Edrychir ar yr Eglwys fel corff sydd, i raddau pell, uwchlaw ymrafaelion a rhagfarnau llawer sefydliad arall. Rhoddir credyd i'r Eglwys am lefaru'n fwy diduedd ac onest. Ni ddylem ruthro i fynegi barn ar bob pwnc dan haul ond mae lIe i ddatganiadau meddylgar a chytbwys ar faterion y dydd. Ond nid ein datganiadau yw ein prif gyfraniad. Trwy eiriol a rhoddi gofal bugeiliol y gwnawn ein cyfraniad pwysicaf. Clywyd o fwy nag un man yng Nghymru am oedfaon a chyfarfodydd gweddi arbennig yn cael eu cynnal pan roedd y clwy ar ei waethaf. Ar hyd yr oesoedd bu pobl Dduw yn eiriol dros eu brodyr a'u chwiorydd yng nghanol argyfyngau bywyd ac mae'n briodol ein bod ninnau yn gwneud yr un fath. Hyd yn oed os na chynhaliwyd oedfaon arbennig mae'n sïwr bod cynulleidfaoedd Cymru wedi gweddïo dros bawb a fu ynghlwm â'r clwy mewn unrhyw fodd. Mae gan yr Eglwys weinidogaeth fugeiliol i'w chyflawni hefyd ac odid nad hyn yw'r wedd bwysicaf o'n gweithgarwch. Clywyd o sawl man am aelodau eglwysig yn weinidogion, blaenoriaid a phobl y meinciau cefn yn cynnal anffodusion mewn sgwrs a chyfeillgarwch. Nid yw cynnig clust i wrando, cydio mewn llaw neu roddi ysgwydd i bwyso arni yn ymddangos yn weithgarwch pwysig yng ngolwg y byd ond tystiolaeth llawer un yng nghanol bywyd ar ei greulonaf yw mai hyn sydd wedi eu cynnal a rhoddi'r nerth iddynt wynebu'r dyfodol. Mae'r 'awdurdodau' yn medru rhoddi cymorth ariannol neu agor drysau i hyfforddi ar gyfer swyddi newydd, ond mae'r gwir boen mewn sawl achos yn ddyfnach o lawer, a'r cyfeillgarwch a'r consýrn sy'n llifo o Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist sy'n medru delio orau gyda'r boen honno. Fe gofir am yr hysbyseb am gwrw a oedd, yn ôl yr honiad, yn medru cyrraedd y rhannau nad oedd unrhyw ddiod arall yn medru ei gyrraedd. Efengyl Crist sy'n medru cyrraedd i ddyfnderoedd calon pob un ohonom a'n braint ni yw bod yn gyfryngau i hynny fedru digwydd. Mewn cymdeithas sy'n rhoddi pwyslais mawr ar weithredu a'r gweithredu hwnnw wedi ei seilio ar allu ac awdurdod gall cyfraniad yr Eglwys ymddangos yn bitw iawn, ond dengys hanes i ni mai'r cyfraniad hwnnw ar ddiwedd y dydd sy'n medru cynnig cysur a gobaith i blant dynion. Dyna'r gweithredu mwyaf gwerthfawr ac ni ddylem gywilyddio o'i blegid.