Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Wrth ymweld felly, mae'n dwyn amser prin cddi wrth y teulu ei hun. Dylai ffonio'r Caplan gan ofyn os oes modd trefnu ymweliad. Bydd amser (os yw'r carcharor yn dymuno hynny) yn cael ei drefnu o fewn wythnos gan amlaf Oes 'na lwyddiannau yn eich gwaith? Ar ddydd Mercher y Lludw eleni 'roedd 'na oedfa yn y capel. Roedd pawb, ond un o'r gynulleidfa, yn droseddwyr rhywiol. (Mae angen nodi fan hyn, eu bod ar Rheol 45, sef yn cael eu cadw ar wahân gan fod casineb mawr yn cael ei ddangos tuag atynt gan bawb arall. Cedwir nhw ar wahan i'w hamddiffyn!) Roedd un person newydd glywed bod rhywun yn ei deulu wedi cyflawni hunan laddiad a dyma fe'n torri i lawr ac yn beichio crio. Dyma'r un person (nad oedd yn droseddwr rhywiol) yn symud ato ac yn dodi braich amdano. Dyna wyrth wedi digwydd o flaen fy llygaid tra'r oeddwn yn cynnal oedfa! Llwyddiant ym mhob sefyllfa ddwedwn i. Beth yw'ch swyddogaeth gyda phobl o grefyddau eraill? Fi yw "Mr. Person Crefydd Statudol" y carchar. Mae ngwaith yn cynnwys gofalu bod hawliau crefyddol pob person yn cael ei barchu o fewn y carchar. Er enghraifft, byddaf yn gweithio gydag Imam lleol ac eraill, er diogelu hawliau pob person. (Dyma fe'n dangos llythyr newydd ddod i'w law i'w gyfarwyddo am ddydd gwyl Islamaidd). Yn y carchar yma ar hyn o bryd mae 700 o bobl. Mae 350 wedi cofrestru eu hunain fel Cristnogion, 20 Moslem a 3 Bwdhydd. Sut dderbyniad sydd i'ch gwaith erbyn hyn a hithau'n ddiwrnod o drai crefyddol? Mae hyn yn fater gwleidyddol o fewn carchar. Ond y sefyllfa'n syml yw hyn ym 1994 'roedd un caplan llawn amser yn Ne Cymru. Erbyn 2000 mae 8 caplan llawn amser. Mae 3 o'r rhain yn y sector breifat lle gallen nhw fod wedi arbed arian a byw gydag un yn unig. Mae'r tyfiant yma wedi digwydd mewn cyfnod pan gafodd Llywodraethwyr carchar hawl i wneud eu dewis eu hunain ar wariant. Felly, does dim angen dweud mwy. Mae'n amlwg bod y gwaith yn bwysig ac yn haeddu'r gwariant. Pwy sy'n cydweithio (amser Ilawn) gyda chi? Merch o Gaerdydd, sef Julia Houlston Clark. Mae'n fath newydd o weithwraig. Mae bod yn is-gaplan yn agored i berson o bob enwad sy'n aelodau o Cytûn yma yng Nghymru. Pabyddes yw Julia ond hi yw'r caplan ecwmenaidd. Cafodd ei hyfforddi'n ddiwinyddol yn America, bu'n gaplan i fyfyrwyr prifysgolion yn Llundain a Southampton. Wrth gwrs dyw hi ddim wedi ei hordeinio. Hefyd, mae'n ferch ac yn wraig. Felly, mae'n torri ar draws beth ddisgwyliai person weld mewn is- gaplan mewn carchar ar gyfer dynion! Ond mae'n berson â thalentau arbennig yn gerddorol (hi sy'n arwain grwp pop y carchar), ond yn bwysicach na hyn, mae'n cael derbyniad rhyfeddol wrth ymdrin â phroblemau priodasol ac hefyd gyda dynion sydd wedi profi trais rhywiol. Beth yw apêl y swydd hon i chi? 'Rydw i'n byw mewn cymdeithas eitha breintiedig. Erioed rydw i wedi bod eisiau gwneud rhywbeth gyda'r difreintiedig sydd ar ymylon bywyd. Doeddwn i ddim yn ddigon dewr i fynd i'r trydydd byd, felly, mae'r carchar yn cynnig rhywfaint o gyfle i mi gwrdd â'm galwad fewnol. Yn ychwanegol mae'n cynnig bywyd personol sy'n dderbyniol i mi. Rydw i nawr yn cael gweinidogaethu heb i neb ymyrryd yn fy mywyd teuluol. Mae ngofal o fewn amodau a therfynau. Rydw i'n agored i bobl gan gadw'r hawl ar fy mywyd fy hun ar yr un pryd. Wedi mynd gartre, rydw i'n dad i 'mhlant ac yn wr i Alyson. Beth fyddai canlyniad dileu'r gaplaniaeth? Byddai cynnydd mewn hunanladdiaethau. Cynnydd mewn trais a thensiwn. Byddai llai o gysylltiad rhwng y carchar a'r gymdogaeth. Byddai'r carcharorion yn cael llai o gyfle i arfer eu doniau. Rydym yn rhydd i gynnal a hybu gweithgaredd creadigol mewn lle sy', yn ei hanfod, yn gorfod bod yn gaethiwus. Mae caplaniaeth Gristnogol yn hawlio gwerthoedd arbennig ac hefyd, o orfodaeth, yn creu naws gynnes a hynny mewn lle oer a bygythiol. Gweinidogaeth yn wir! Diolch.