Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dathlu trigain mlynedd o ddarlledu o Fangor 'O'R HYN A GLYWIR Symbolau Cristnogol cynnar, hen lawysgrifau mewn amgueddfa, croes Celtaidd mewn mynwent yn Llyn, ffenestri lliw mewn eglwys gadeiriol, darluniau, sym- bolau, iconau, llyfrau printiedig, pamffledi a chylchgronau, pulpud a llwyfan, radio a theledu, recordiau, tapiau, ffilmiau, fideo, cyfrifiadur-be sy'n gyffredin i'r rhain i gyd? Ydyn, mae nhw i gyd yn ddulliau gwahanol o gyfathrebu, a phob un wedi ei ddefnyddio yn ei dro i gyfathrebu ffydd a phrofiad crefyddol. Ac y mae crefydd erioed wedi llwyddo i fanteisio ar bob dull newydd o rannu gwybodaeth ac yn ami iawn wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am greu dulliau newydd o gyfathrebu. Wrth gwrs, y cyfrwng pwysicaf a'r mwyaf effeithiol yw'r bersonoliaeth ddynol: personau yn trafod a rhannu eu ffydd a'u hymwybyddiaeth o Dduw â phobl eraill. Wrth ysgrifennu at y Rhufeiniaid, meddai Paul, 'O'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist' (Rhuf. 10:17). Pwrpas pob cyfrwng yw galluogi pobl i glywed, ac o glywed i ystyried, ac o ystyried i gredu. Un o'r cyfryngau mwyaf dylan- wadol, sy'n gallu cyrraedd miliynau lawer o bobl ar draws gwledydd a chyfandiroedd, fu hefyd yn gyfrwng effeithiol eithriadol i rannu'r ffydd Gristnogol, yw radio. ELFED AP NEFYDD ROBERTS Ym mis Tachwedd 1995 cafwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau: darlith, arddangosfa, dydd agored, cyngerdd a gwasanaeth, i ddathlu trigain mlýnedd o ddarlledu o Fangor; nid darlledu crefyddol yn unig, ond yr amrywiaeth eang a chyfoethog o raglenni o bob math: newydd- ion, sgyrsiau, trafodaethau, cystadlaethau, rhaglenni cylchgrawn, cerddoriaeth, nosweithiau llawen, rhaglenni plant, dramáu, yn ogystal â gwasanaethau boreol o'r stiwdio, oedfaon bore, myfyrdodau a chaniadaeth y cysegr, a gynhyrchwyd ac a ddarlledwyd o Fangor. Y mae dathlu yn cynnwys diolch, ac y mae'n briodol fod y rhai hynny ohonom ni sy'n wrandawyr yn diolch am yr hyn yr ydym ni wedi ei dderbyn ac yn parhau i'w dderbyn. Diolch am holl gynnyrch y trigain mlynedd diwethaf, sydd wedi cyfoethogi ein diwylliant, wedi gwneud cymaint i ddiogelu'r Gymraeg ac i.hybu'r pethe, yn ogystal â'n diddannu a'n dysgu, ein sobri a'n sirioli, bod yn gwmni ac yn gysur inni, ein tynnu at ein gilydd ac agor ffenestri in- ni ar y byd mawr oddi allan. Diolch hefyd am y rhai fu'n gyfrifol am baratoi a chyflwyno'r arlwy hon. Bu lleisiau ac enwau y rhai fu wrth y gwaith yn y gorf- fennol mor gyfarwydd fel inni eu hystyried bron fel rhan o'n teulu. Ac y mae hynny'n wir am y rhai sydd wrth y gwaith heddiw. Cânt fynediad parod i'n cartrefi a dônt yn gwmni diddan ar aml i daith hir a diflan yn y car. A diolch hefyd am y lle a gafodd darlledu crefyddol, o fewn Radio Cymru yn gyffred- inol, ac ym Mangor yn arbennig. Y mae'n siwr y gallai rhywun yn rhywle gyfrif faint yn union o oriau o ddarlledu crefyddol a fu Dathlu trigain mlynedd o ddarlledu o Fangor. Oedfa'r Bore. Yng Nghapel Pendref, Bangor. Fore Sui, 19 Tachwedd 1995, am 10 o'r gloch. Darlledir 26 Tachwedd ar Radio Cymru, 12.50. Pregethwr gwadd Y Prifathro Elfed ap Nefydd Roberts. Arweinydd y gan Alwyn Samuel. Organydd Morfydd Maesaleg. dros y trigain mlynedd. Ond yr hyn na allai neb ei gyfrif yw dylanwad yr oriau hynny. Sawl calon a gynheswyd o ymdeimlo â chariad Duw yn lapio amdanynt? Sawl enaid a ddyrchafwyd mewn rhyfeddod a moliant trwy gyfrwng oedfa radio? Sawl gwrthgiliwr a glywodd lais yn ei alw'n ôl? Sawl un mewn hiraeth a dagrau, mewn afiechyd a gwendid, a gafodd nerth i ymgynnal ac i ddal ati? Wyddom ni ddim. Fedrwn ni ddim mesur dylanwad, ond fe fedrwn ddiolch amdano. 'O'r hyn a glywir y daw ffydd,' meddai Paul, ac o'r hyn a glywir y daw nerth a gobaith hefyd. Ond y mae diolch am gyfraniad ddoe yn golygu hefyd ystyried pwrpas a chyfeiriad darlledu heddiw ac i'r dyfodol. A chyfeiriad pob darlledu, nid darlledu crefyddol yn unig, oherwydd yn y bôn yr un yw amca- nion darlledu o bob math. Dyna a olygai pennaeth darlledu crefyddol y BBC yn y chwedegau pan ddywedodd fod pob darlledu yn ddarlledu crefyddol. FFURFIO DIWYLLIANT Un o amcanion darlledu, gan gynnwys darlledu crefyddol, yw ffurfio diwylliant. Dywedodd Adroddiad Pwyllgor Annan rhai blynyddoedd yn ôl mai'r BBC, o bosib, oedd y gyfundrefn ddiwylliannol bwysicaf a grymusaf yn y wlad. Ond nid adlewyrchu