Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Mae'r ddogfen hon yn codi mater o egwyddor i enwadau eraill, sef derbyn esgobyddiaeth. Ond dogfen i'w hastudio yn fwy na chynllun gorffenedig sydd yma, ac y mae'n bwysig ein bod ni'n trafod y cynllun ac yn ei newid. Wedi'r cyfan pan fo pâr yn priodi mae'r naill fel y llall ohonyn nhw yn colli rhyw ryddid a oedd yn eiddo iddyn nhw ar wahân, ond does dim un o'r ddau yn colli ei hunaniaeth.'Rwy'n credu mai'r peth pwysig ar ddiwedd y dydd yw ein bod ni'n derbyn gweinidogaeth ein gilydd gan fod yn barod i rannu allor a phulpud. Mae cyfoeth yn perthyn i bob traddodiad ac mi fyddai'n drueni colli dim o'r cyfoeth hwnnw dim ond er mwyn cael ein gosod yn yr un mowld. A pheth arall, mae'r ddogfen yn awgrymu y bydd angen deunaw esgob ar Gymru, ac er mod i'n ymwybodol iawn o bwysau gweinyddol swydd esgob, rwy'n credu bod y rhif a awgrymir yn ormod. Gol: Rwy'n deallfod cenhadaeth esgobaethol ar droed gyda chi yn Nhŷ Ddewi, a fyddech chi'nfodlon sôn am rai o'r cymhellion a'r cynlluniau? G.N: Pan ddarllenais i'r llyfr hwnnw ar argoelion Cristnogaeth yng Nghymru a sylweddoli bod 8 allan o bob 10 o drigolion Dyfed ddim yn mynd yn agos i na chapel na llan, roedd hi'n amlwg bod angen efengylu'r gornel hon o Gymru. Mae cefn gwlad Cymru wedi mynd yn baganaidd ac nid gwaith hawdd yw'r gwaith o efengylu gan ein bod ni'n wynebu problem ysbrydol fawr fel Cristnogion, problem ymgyflwyniad. Ond y mae'n rhaid gweithredu. Yr hyn sydd ei angen yw gweledigaeth o'r hyn y mae Duw yn ei ddweud wrthym. Rhywbeth a dderbynniryw gweledigaeth ac nid dim byd y gallwn ni ei gynhyrchu. Ond y mae'n rhaid inni ryddhau ein hunain rhag yr ymdeimlad sydd yn ein plith bod cadw'r gyfundrefn grefyddol i fynd yn waith beichus. Mae eisiau i ni roi cyfle i'n hunain i ddathlu, ac mi rydwy' i am weld rhywbeth yn dod i'r eglwys sy'n rhoi cyfle inni DDATHLU.Ond dyw popeth ddim yn ddu achos o deithio'r esgobaeth mi rydwy' i yn gweld rhai arwyddion o adfywiad, yn y lleoedd mwyaf anhebyg ac ymhlith y bobl ifainc. GA%GAIR DEILIA yr ofn Anghristnogol Peth naturiol ac iddo swyddogaeth ddef- nyddiol yw ofn. Mewn argyfwng y mae'n peri i'r corff ryddhau'r adrenalin sy'n galluogi person i ymateb yn sydyn i'r perygl y caiff ei hun ynddo. Yn y Beibl ofn yr Arglwydd yw dechrau doethineb, tra bod anwybyddu a gwadu bodolaeth Duw yn gyfystyr â ffolineb noeth. Ymadrodd cyfoethog ac awgrymiadol yw'r ymadrodd Cymraeg 'parchedig ofn'. Mae'n gweddu i ofn naturiol a'r ofn y mae'r Beibl yn sôn amdano mewn perthynas i Dduw. Yn y byd naturiol y mae'n hanfodol i ddyn adnabod a pharchu peryglon o bob math, tra mai gweddus yw parchu'r Duw y mae'r Cread yn crynu ger ei fron. Eithr nid am y math yna o ofn y sonia 2 Timotheus 1.7. Yno yn unig yn y Testament Newydd Groeg yr ymddengys y gair DEILIA a dros- wyd i'r Gymraeg fel 'ofnusrwydd' (Sales- bury a'r Testament Newydd Diwygiedig, 1882), 'ofn' (William Morgan), 'ofnogrwydd' (Thomas Briscoe, 1894), 'llyfrdra' (Oraclau Bywiol), 'llwfrdra' (William Edwards, 1913 a'r B.C.N.)a 'llwfr' (C.P.C.). Y mae William Edwards hefyd yn cynnig "anwroldeb" fel trosiad posibl i'r gair DEILIA gair nad yw byth yn cael ei ddefnyddio mewn Groeg mewn ystyr dda Awgrymu a wna'r gair 'ofn llwfr' yn hytrach nag ofn naturiol neu ofn y gellir ei gyfiawnhau. Y mae ofn llwfr yn nacáu Cristnogaeth ac yn rhwystro'r bendithion a ddylai ddod yn ei sgîl. Cyll Cristion llwfr y nerth a ddylai Gol: Pa gynlluniau sydd gennych ar gyfer dathlu? G.N: Ry'm ni wedi bod yn paratoi ar gyfer y genhadaeth hon ers peth amser ac y mae 1986 yn flwyddyn o baratoi gyda chardiau gweddi wedi mynd i bob aelwyd Eglwysig yn yr esgobaeth. Agorir y genhadaeth gyda chyfarfod cyhoeddus ar Barc y Strade yn Llanelli ar brynhawn y Pentecost 1987, gyda'r Cymun yn uchafbwynt y dathliad. Bydd hyn yn gyfle i aelodau'r esgobaeth gyfan deimlo eu bod nhw'n rhan o un teulu mawr, a theulu sydd ganddo rywbeth i'w ddathlu. Ond nid patrwm sy'n cael ei orfodi o'r top yw hwn, ond galwad i ffyddloniaid pob plwy' i fynd ati i weddio ac i ofyn: 'Beth sydd gan Dduw i'w ddweud wrthym ni?' Mae angen cael ein hadnewyddu arnom ni bob un. Gol: Ym mha fodd ry'ch chi'n gweld yr adnewyddu hwn yn digwydd? G.N: Mae eisiau dyfnhau'n ffydd Gristnogol i ddechrau, mae angen i ni gymryd ein haddysgu o'r newydd yn sylwed- dau mawr y Ffydd Gristnogol. Ac yna, yn yr ail Ie, mae eisiau adnewyddu ein haddoliad, lle mae addodiad yn dod yn beth byw a'r litwrgi'n cyhoeddi gwefr a llawenydd y newyddion da. Yna, yn drydydd, mae eisiau adnewyddiad mewn efengylu fel ein bod ni sydd wedi'n hadnewyddu'n mynd allan gydag ysbryd newydd i efengylu. Gol: Ai peth ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru yn Nyfed yn unig yw'r genhadaeth hon? G.N: Na, rwy'n gobeithio y bydd yr enwadau eraill yn teimlo y gallant gyd-weithio â ni, yn enwedig oddi fewn i'r sefyllfa leol ac wrth fynd o dy i dy. Y ffordd orau i weithredu'n gyden- wadol yn y cyswllt hwn, greda' i, yw wrth i un Eglwys geisio gosod ei thy ei hun mewn trefn i ddechrau a rhoi cyfraniad gwell i'r sefyllfa eciwmenaidd ac i Eglwysi eraill ddod i fewn yn ôl eu dymuniad i rannu'r neges. ddod yn sgîl ei ffydd fel y dywedodd C. H. Spurgeon: 'Nid gwacau yfory o'i ofid a wna pryder ond gwacau heddiw o'i nerth'. Cyll Cristion llwfr y ddawn i garu ac i ymateb i gariad oherwydd 'Nid oes ofn o unrhyw fath mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn' (1 loan 4.18). Cyll Cristion llwfr hefyd ei hunandd- isgyblaeth. 'Ni frysia yr hwn a gredo' (Eseia 28.16) ond panig sy'n nodweddu y sawl a feddiannwyd gan ofn llwfr a Pan oedd enw'r Duw Groegaidd a daenai ofn ym mhobman. Gyda golwg ar DEILIA, felly, gwir yw y pennill byr yr honnir ei fod yn ysgrifenedig uwch y lle tân mewn rhyw dafarn yng Ngogledd Cymru: Curodd Ofn y drws; Atebodd Ffydd Nid oedd neb yno! D. Hugh Matthews