Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Adolyôiadau Atgofion a Myfyrdod yr Athro Hywel D. Lewis wrth ddarllen cyfrol y Prifathro Dewi Eirug Davies "Diwinyddiaeth yng Nghymru." Ni a'r Iesu. Diwinyddiaeth yng Nghymru, 1927-1977 Dewi Eirug Davies, Cyflwyniad J. E. Caerwyn Williams. Gwasg Gomer, tud. XIV + 358. 1984. Pris f 10. S 0. Fe lwyddodd awdur y gyfrol gynhwysfawr yma i roi i ni gyflwyniad teg a diddorol dros ben o brif nodweddion meddwl crefyddol a diwinyddiaeth yng Nghymru yn y cyfnod diweddar a ddewisodd. Mae ôl llafur manwl ar y cwbl, yn llyfrau, erthyglau ac amrywiol ddatganiadau y tynnwyd yn ddeheuig iawn arnynt i ddweud yr hanes yn fyw ac adeiladol. Mae pob llecyn yn hyfryd ac esmwyth i'w droedio ar hyd y daith, ac yn llawn o wybodaeth fuddiol. Rhennir y llyfr yn benodau tra sylweddol, yn ôl y pynciau a drafodir, 'Yr Hen a'r Newydd', 'Person Crist a Grym yr ysbryd Glân', 'Gair Duw', ac ymlaen. Ennynodd y bennod gyntaf fy niddordeb o'r cychwyn, gan ei bod yn sôn am bobl y gwyddwn yn iawn amdanynt ac amryw yr oeddwn yn eu hadnabod yn bur dda. Ni welais i T. Gwyn Jones a W. J. Gruffydd erioed ond ar lwyfan, ond cefais beth gohebiaeth â'r olaf pan fentrais anfon gair neu ddau i'r Llenor a chael bendith y print gogoneddus oedd i'w gael y dyddiau hynny. Ond cefais lawer o gymdeithas T. Ellis Jones, J. E. Daniel, Pennar Davies, James Humphreys a Bleddyn Roberts ac S. O. Tudor a Gwilym Bowyer (oedd yn gyd efrydydd â mi) a David Phillips a'r gwr annwyl iawn ac athrylithgar hwnnw, R. R. Hughes, ac amryw eraill. Taith eithaf hiraethus fu hi i mi drwy lawer o'r gyfrol a meddwl yn aml am y 'deffro'r beroriaeth chwerw felys Y sy'n soniarus yn neusain hiraeth'. Profiad melys ar y cyfan fu cael adnewyddu'r hen gymdeithas a chymaint o bobl ymroddedig ac athrylithgar y cefais y fraint o fod lawer yn eu cwmni yn fy nyddiau cynnar. Cawn fynd yn gyson i gyfarfodydd Hen Fyfyrwyr y Bala yn Llandudno. Ni fum i yn efrydydd yn y Bala, ond cawn fynd yng nghysgod fy nhad a'i gyfeillion. Bendith ryfeddol oedd hyn a hyfrydwch pur. Yr oeddwn yng nghwmni pobl amryddawn iawn a chwmni hynod o lawen, ac yn aml yn dra direidus, a llawer o dynnu coes. Amser a ballai i mi sôn am hynny, ond nid oedd hi'n hawdd peidio bod yn drist i feddwl fod y cedyrn hyn oll wedi cilio ers cryn amser. Mae un peth nodedig iawn yn yr hanes i gyd, sef mor debyg yw'r materion yr oedd dadlau mawr yn eu cylch hanner can mlynedd yn ôl a'r union bethau y mae ymgodymu mawr â hwy heddiw, yn neilltuol yr ymrafael rhwng y sawl sydd yn glynu'n gadarn wrth draddodiad, hyd at dderbyn y Beibl i gyd yn llythrennol, a'r rhai sydd yn yr eithaf arall yn dehongli pob peth mor fydol ag sydd modd, hyd at wadu'r atgyfodiad mewn unrhyw ystyr sylweddol ac ymwrthod â dwyfoldeb Iesu Grist. Yma y mae hanes yn ei ailadrodd ei hun yn gywir iawn. Ond dylasem fod wedi dysgu'n well oddi wrth y dadleuon a fu, a dylai'r gyfrol ofalus yma fod yn help i wneud hynny. Nid yw ymwrthod â safbwyntiau tra- ddodiadol yn golygu nad oes dim nodwedd- iadol o'n crefydd i ddal ein gafael ynddo. Medrwn gydnabod fod Duw wedi dadlennu ei feddwl i ni drwy ddarbodaeth anghyf- lawn dynion ffuantus a methedig fel ninnau, ac ar yr un pryd weld yn glir mai Duw ei hun oedd ar waith yn graddol gym- hwyso dynion a pherffeithio eu hymwyb- yddiaeth ohono. Mae llawer safbwynt yn agored i ni heblaw y pegynau, er mai pobl y pegynau sydd yn fwyaf derbyniol ar y cyfryngau. Fe neilltuwyd adran rymus yn y llyfr i amryfal adweithiau i ddatganiadau fy nghyfaill a'm cydathro athroniaeth, J. R. Jones, gwr hoffus iawn a fedrai rymuso ei fedrusrwydd athronyddol â choethder llenyddol anghyffredin. Methwn i gyd-fynd â llawer o'i ddaliadau a thybiwn ei fod braidd yn anfeirniadol o rai o'r bobl a edmygai fwyaf, fel Paul Tillich. Rhoddir cryn sylw, yn briodol iawn, hefyd i 'helynt Tom Nefyn', gwr nad ymddengys i mi fod ganddo y treiddgarwch meddyliol a ddis- gwyliwn ac nad oedd ei danbeidrwydd cyhoeddus yn apelio ataf fi fel cynildeb rhai eraill o wroniaid pulpud fy enwad ar y pryd, Dr. John Roberts, y Prifathro Hywel Harris Hughes a'i gyfenw o Landudno, a'r Parch. W. R. Owen neu J. W. Jones a David Williams a Joseph Jenkins a glywais yn llencyn yn ysgytwol iawn. Yn y cyswllt hwn, hoffwn ddatgan fy syndod nad oes yn unman hyd y sylwais gyfeiriad at y gwr athrylithgar, R. Meirion Roberts. Efallai nad oedd ei gyfraniadau neilltuol ef yn syrthio yn rhwydd i rigol y pynciau a drafodir. Ond fe wnaeth ef, yn ei ffordd ei hun, gyfraniadau gyda'r mwyaf nodedig i feddwl crefyddol ei gyfnod. Ni wn am neb a fedrai drafod pynciau dyrys gyda'r fath hoenusrwydd a cheinder llen- yddol. Gobeithio y gwelir casgliad o'i ysgrifau hynod yn rhywle cyn bo hir. Adran sydd yn delio â phwyntiau a ddaeth i gryn amlygrwydd yn ddiweddar ac sydd yn ganolog iawn i drafodaethau a datganiadau cyhoeddus yn ddiweddar, er ei fod hefyd yn hen iawn, yw 'Person Crist a Grym yr Ysbryd Glân'. Rhybuddir ni i 'gadw mewn cof ddatganiad Horace Bush- nell i'r perwyl mai yn y tair canrif gyntaf y bu'r pregethu grymusaf yn holl hanes Cristnogaeth, ond nid oedd athrawiaeth am yr Iawn yn byd yr adeg honno'. Atgofir ni hefyd am rai o'r 'syniadau amrwd' a gysylltwyd â hi, fel bargen â'r diafol. Y prif anhawster i mi ynglŷn ag athrawiaeth yr Iawn yw ei bod mor fynych yn rhagdybio syniadau am gosb, a chosbau atdaliadol a dirprwyol nad yw llawer yn eu derbyn bellach. Nid am ein bod yn agored i gosb yr ydym yn fodau cyfrifol. Y cyfrifoldeb a ddaw yn gyntaf, ac fe saif pan na dderbyniwn ni unrhyw syniad am gosbi ar wahân i'r ddisgyblaeth sydd eisiau i ddiogelu trefn a bywyd cymdeithasol. Nid oes llawer yn credu erbyn hyn, ac yn sicr nid wyf fi, mewn cosb er ei mwyn ei hun neu fel rhywbeth y mae cyfiawnder yn galw amdano heb unrhyw ddiben pellach. Nid i gymryd y gosb yn ein lle y talwyd 'y pris a'r gwerth a'r aberth drud', ond i sicrhau ein hadferiad i berthynas gymwys â'n gilydd ac â Duw. Bod yn gyfrifol yw bod yn greaduriaid a ddichon o fwriad ddewis ein boddio ein hunain yn hytrach na gwneud beth bynnag sydd fwyaf daionus ac yn unol â dylet- swydd. Pan wnawn ni hyn, gwneud y drwg yn hytrach na'r da, yr ydym yn cadw ein golygon arnom ein hunain a byw ym myd cyfyng ein hymwybyddiaeth ein hun heb weld diben ym mywyd neb arall ond fel y mae yn union o fudd i ni, nes bod eraill yn mynd yn ddim gwell nag elfennau afreal yn nrama ein bywyd ein hun. Ond difancoll yw diwedd hyn, yr ydym yn byw heb y gynhal- iaeth anhepgor oddi wrth eraill ac oddi wrth Dduw. Daw hyn yn amlwg iawn, fel y ceisiais ddangos yn fy Freedom and Aliena- tion yn ddiweddar, mewn llenyddiaeth gyfoes, ac nid wyf yn meddwl fod modd ei wella yn iawn heb berthynas fywiol â Duw yn Iesu Grist. Y peth i'w gofio ynglŷn â pherson Crist yw yr hyn a ddysgir amdano yn ei gyf- lawnder. Atgofion anghyflawn sydd gennym, ond eu bod wedi cychwyn gryn amser cyn eu crynhoi yn Efengylau, a maent o ansawdd neilltuol iawn. Anodd meddwl am neb yn eu dychmygu yr oedd yna ormod yn cofio, a dylanwad y dweud mor gyrhaeddbell a ffrwydrol. Mae'r sôn am Iesu'n dysgu'r disgyblion, yn encilio i feddwl a gweddio (a'r fath weddiau a ddysgodd i ni) yn mynd (ac yn amlwg yn mwynhau mynd a sylwi) drwy'r yd ac i lethrau unig y mynyddoedd; yn sylwi yn weithfawrogol ar odidowgrwydd y golyg- feydd yn well na Solomon yn ei holl ogoniant yn craffu ar yr adar a'r heuwr yn hau, a ffigysbren a'r pren mwstard, yn aros ar aelwydydd a gwneud cyfeillion