Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Huw Machno: 'Cywydd i Ofyn Telyn Sir Fôn deg sy ar fin dwr, Gorau gwlad gwyr a glewdwr, Sir Fôn, hapus yw'r faenawl, Erioed i Fôn rhedai fawl; A folianno fawl union, 5 Eled â'i fawl i wlad Fôn. Mawl union am haelioni I un o Fôn a wnâf fi, Robert ap Huw, wr hybarch, Mawl a gâi byth, amlwg barch; 10 Mab rhwydd ym mhob bro heddiw, Aml iwch air hir mal ych rhyw. Brau wyd, wyr Siôn, breuder sydd, Brwynog, fu bur awenydd. Dail Iorwerth Wystl a eurynt 15 Difai o goed, Hwfa gynt; Gwaed o Ben, goed a bonedd, Mynydd ym Môn, union wedd; Iach hen lwyth Bodychen lin A Thegeingl helaeth egin; 20 Gwr od yn dwyn gair ydwyd, A gwas y brenin teg wyd; Gwr addwyn, doeth, gwreiddwych, Ac i ras Siams gwr sy wych, A'i gerddor mewn rhagorddysg 25 A ddeil gerdd ddofn ddilwgr ddysg; Ar glymau [ ] A'i dosbarth yr wyd ysbys: Pob pur ddysg, pob rhyw ddesgant, Pob trawiad teg, pob tro tant. 30 P'le ca'i gymar dihareb? P'le ni wn? On'd Peilin, neb. Os chwilir lle'i clymir clod Graddau difai'r gerdd dafod, Appendix II (Atodiad II)