Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Ficer Prichard (1579-1644): ei gefndir a'i gyfraniad i'w gymdeithas Yn ei ragymadrodd i Y Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo yr anghyfar- wydd i'r nefoedd (1630), sef ei gyfieithiad o waith poblogaidd Arthur Dent. The Plaine Man's Pathway to Heaven (1610), y mae Robert Llwyd yn hallt iawn ei feirniadaeth ar ansawdd bywyd ysbrydol plwyfolion syml yng nghefngwlad Cymru. Disgrifiodd oferedd a diffyg parch i'r Sabath ac anogodd ei ddarllenwyr i barchu ei sancteiddrwydd ac i roi 'ymmaith y twmpath chwareu a'r bowliau, a'r tafarnau, a'r bêl-droed, a'r denis, a'th negesuau' ac ymroi i wasan- aethu Duw 'ar ei ddydd ei hûn Ymae'npwysleisio'rangenigreu ymdeimlad o bechod yn y credadun distatlaf ac o ras Duw tuag ato. O fyfyrio yn y gyfrol hon, meddai, gallai ddod yn ymwybodol o'i drueni: Dysc wrth hwn o fewn y chydig at ei ddechreuad, weled dy gyflwr presennol, a chyrhaeddyd y wir adenedigaeth i fod yn blentyn i Dduw; ac yna y cei dryssor safadwy parhaus yn y nefoedd; ti a fyddi cyfoethog yng-Hrist o bob rhadau ysprydol: a'r nefoedd hefyd eiddot ti fydd.2 Rhagarweiniad i gyfieithiad o un o'r gweithiau mwyaf poblogaidd yn ei ddydd oedd hwn ac ymddangosodd y gwreiddiol a'r cyfieithiad mewn cyfnod o dwf arwyddocaol mewn Piwritaniaeth oddi mewn i'r Eglwys Brotestannaidd. Beth oedd nodweddion y Biwritaniaeth honno? Daethai i fod ym mlynyddoedd canol yr unfed ganrif ar bymtheg, wedi esgyniad Elisabeth I i'r orsedd, ar ffurf protest yn erbyn safonau'r Eglwys. Datblygodd i fod yn bwer oddi mewn ac oddi allan i'r Eglwys honno, ac er na fu'r mudiad yn llwyddiant ysgubol ynddi erbyn y 1580au, parhaodd y mudiad i fod yn rym yn negawdau cynnar yr ail ganrif ar bymtheg a ffynnodd ymhlith clerigwyr a ymdeimlai â'r angen am ddiwygio disgyblaethol ac ysbrydol o fewn y sefydliad. I'r