Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Adolygiadau SIONED DAVIES, Pedeir Keinc y Mabinogi, Llên y Llenor, Gwasg Pantycelyn, 1989, 77 td. [3.00. Dyma'r astudiaeth ddiweddaraf mewn cyfres sydd bellach wedi hen ennill ei phlwyf. Ond fel y dywed Dr. Sioned Davies wrth agor ei hym- driniaeth, dyma'r un gyntaf sy'n trafod gwaith llenyddol dienw; ac yn fwy na hynny, gan fod y berthyn- as rhwng y testun ysgrifenedig canol oesol hwn a thraddodiadau llafar y cyfnod yn anhysbys, nid yw'n gwbl eglur i ba raddau mae'n briodol sôn am awdur y gwaith. Dros y blynydd- oedd cafwyd llawer iawn o astud- iaethau o Pedair Cainc y Mabinogi. Ceisiai rhai ddadansoddi natur y deunydd crai ac olrhain datblygiad y chwedlau i'w ffurf gysefin. W. J. Gruffydd oedd yr arloeswr yn ei drafodaethau cywrain ar Fath, Rhiannon a Branwen, a'i ddamcan- iaeth am fywgraffiad arwrol o bedair anturiaeth allweddol yn hanes Pryderi. Dadansoddi'r motifau a'r teipiau storiol llên-gwerin a wnaeth K. H. Jackson. Yr hyn a wneir mewn astudiaethau mwy diweddar yw ceisio dadansoddi siâp y ceinciau unigol ac y mae'r strwythur mor- ffolegol erbyn hyn yn denu mwy o sylw na'r ymgais i ganfod adeilad- waith y cyfan, fel y mae'n deg dweud fod cynllun mawreddog W. J. Gruffydd, neu ddadansoddiad mec- anistig Jackson, dipyn yn llai poblogaidd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn cafwyd yr hyn a alwodd Dafydd Glyn Jones 'y feirn- iadaeth newydd' ar y Pedair Cainc, beirniadaeth lenyddol sy'n canfod grym cyfochredd a chyferbyniad o fewn y cyfanwaith ac sy'n chwilio am feddwl awdur ynddo. Gwyr Dr. Davies yn dda am yr holl astudiaethau hyn (ac mewn cromfachau, fel petai, gallasai fod wedi sôn ychydig mwy amdanynt yn ei hymdriniaeth hithau) ond dewis- odd ddilyn trywydd arall ac agor maes newydd. Pum adran a diwedd- glo sydd yn y llyfr cymharol fyr hwn, Y Cefndir, Adeiladwaith, Tech- negau naratif, Themâu, Cymeriad- au. Ymhob un ohonynt holir cwest- iynau sylfaenol am natur y gwaith, neu fe gynigir dulliau newydd o'i ystyried. Prif ddiddordeb Dr. Davies yw'r berthynas rhwng llên lafar a llên ysgrifenedig, neu ymha fodd y dylanwadodd confensiynau'r cyfar- wydd, neu'r storïwr llafar, ar ar- ddull, adeiladwaith a chymeriad- aeth y llenor unigol a gyfansoddodd Pedair Cainc y Mabinogi. Ond ai pedair cainc sydd? Gogleisiol yw'r