Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(Y Fugeilgerdd Delynegol': Genre Naturiol? gan gynnwys cyflwyniad i ddadl rhwng Genette a Derrida Sbardunwyd fy niddordeb yn y 'fugeilgerdd delynegol' (y lyric pastoral, beth bynnag ydyw) gan ystum a wnaed gan Jacques Derrida ar ddechrau ei ysgrif 'La loi du genre', 'Cyfraith genre', yn 1980. 'Ne pas mêler les genres. Je ne mêlerai pas les genres,' meddai — 'Ni chymysgir genres. Ni chymysgaf genres.' Gyda'r gosodiadau hyn y mae Derrida yn mynd ati i adysgrifennu'r cysyniad o genre, gan ddefnyddio 'atseiniau' gwahanol genres i esgor ar doreth o wahanol lefelau a chyd-destunau. Byddaf yn dychwelyd at ambell un o'r rhain eto; yn ogystal ag at rai o'r cyhuddiadau y mae Gérard Genette gwr y mae Derrida mewn dialog cyson ag ef yn eu gwneud yn erbyn ymdriniaeth Ramantaidd â'r cysyniad o genres. Ond rhaid bwrw iddi, serch hynny, gyda siars Derrida am drefn, siars sydd mewn gwirionedd yn ymhlyg yn y cysyniad o genre. A oes modd honni bod genres yn gymysg? A yw rhai genres yn burach na rhai eraill? Swyddogaeth yr ysgrif hon yw cynnig enghraifft o ymdrech i gymysgu genres, y delyneg a'r fugeilgerdd, oherwydd dyma ymdrech sydd, o bosibl, yn erthylu mwy nag y mae'n ei greu: The Reader will observe, that the term Lyric Pastoral has often been used, and will, perhaps ask, for what reason? It is this We often observe Shepherds, and other rural characters, diverting themselves with songs, which are always, in the proper sense of the word, sung to a tune; the verse of course must be Lyric. SHENSTONE'S Pastoral Ballads are, for this reason, amongst others, far more natural than the Bucolics of Theocritus, Virgil, and many more that could be named; this at least is a Welsh Bard's opinion, who admits of no authority but that òf NATURE. We often hear the fields resound with Chevy Chase, Tweed Side, and such popular songs. Shepherds, Ploughmen, and Goatherds, will