Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Sylwadau ar Athroniaeth Crefydd yr Esgob Butler- Anfarwoldeb YN Nhraethodydd Hydref 1982 cynigiais rai sylwadau ar ddadleuon yr Athro Hywel D. Lewis ynglyn ag anfarwoldeb yr enaid. Ar ôl ysgrifennu'r sylwadau hynny, ailddarllenais lyfr enwog yr Esgob Joseph Butler, The Analogy of Religion, Natural and Revealed to the Constitution and course of Nature, a gyhoeddwyd yn 1736. Mae pennod gyntaf y llyfr yn cynnwys dadleuon o blaid anfarwoldeb, ac wrth ailafael yn nadleuon Butler, sylweddolais ei fod ef, fel Lewis, yn rhagdybio safbwynt Gartesaidd, ac o'r herwydd bod cryn debygrwydd rhwng dadleuon y ddau athronydd ar y pwnc yma, er bod dau can mlynedd yn eu gwahanu. Yn y ganrif hon, hyd yn ddiweddar, Yoedd cryn drafod mewn adrannau athroniaeth ym Mhrifysgolion Prydain, ar foeseg Butler a gyhoeddwyd yn bennaf yn ei Fifteen Sermons delivered at the Rolls Chapel (1726).1 Mewn erthygl wych gan yr athronydd craff a theiddgar hwnnw o Gaergrawnt, y diweddar Athro C. D. Broad,2 canmola ef waith moesegol Butler yn fawr iawn. Fe â'r hanesydd E. C. Mossner gryn dipyn ymhellach.3 Saif pwysigrwydd syniadau Butler, medd ef, yn gyfan ar wreiddioldeb ei syniadau ar foeseg: nid oes dim gwreiddioldeb yn yr Analogy of Religion, yr unig lyfr yn cynnwys trafodaeth systematig o bwnc arbennig, a gyhoeddodd Butler. Ailadrodd dadleuon a ymddangosodd yng ngwaith eraill cyn cyhoeddi'r Analogy yn 1736 a wna Butler yn ei lyfr, yn ôl Mossner. Os dyma farn ein canrif ni am waith Butler, nid felly y bu hi. Yn sicr yn ail hanner y ddeunawfed ganrif, ac yn enwedig yn y ganrif ddiwethaf, 'roedd yr Analogy mewn bri mawr. Ar wahân i fod yn faes llafur i do ar ôl to o fyfyrwyr, fe wyddom mai'r Analogy oedd prif werslyfr apologetic y ganrif ddiwethaf ac iddo ddylanwadu yn drwm ar ddiwinyddion mawr fel Newman, F. D. Maurice, a R. W. Church, heb sôn am lenorion fel Coleridge a Matthew Arnold. Mae lle i gredu bod dylanwad yr Analogy yn drwm ar ddiwinyddion yng Nghymru. Gwyddom fod y Dr. Thomas Chalmers wedi cyhoeddi ei ddarlithiau ar Butler4 a gellid disgwyl bod syniadau Chalmers wedi dylanwadu ar Lewis Edwards, a thrwyddo ef ar Gymru. Beth bynnag am hynny fe wyddom fod cyfieithiad Cymraeg o'r Analogy wedi ymddangos yn 1859 ac fe wyddom hefyd fod dosbarth allanol o weithwyr cyffredin yn y ganrif ddiwethaf yn astudio Analogy Butler.5 Nid yw myfyrwyr prifysgol heddiw a freintiwyd â llawer mwy o addysg ffurfiol na'r gweithwyr cyffredin hynny o'r lofa a'r gwaith dur, wedi clywed sôn am yr Analogy, ac yn sicr nid ydynt wedi ei ddarllen. Cyn troi at gynnwys yr Analogy diddorol sylwi bod Butler, ar ôl ei benodi'n esgob Durham yn 1751, un o esgobaethau pwysicaf Lloegr, yn gofidio'n arw oherwydd y dirywiad mawr ar grefydd yn nghanol y ddeunawfed ganrif. Yn ei anerchiad cyntaf i offeiriaid yr esgobaeth cychwynnodd Butler â'r geiriau hyn: It is impossible for me, my brethren, upon our first meeting of this kind, to forbear lamenting with you the general decay of religion in this nation: which is now observed by every one, and has been for some time the complaint of all serious persons.6