Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

cynnydd a wnaed yn y blynyddoedd ar ô11918, nid gwella bywyd yn ei allanolion a drôi'r byd yn Deyrnas Dduw. Yr oedd yn rhaid edrych y tu mewn o hyd. Cyrraedd y cytbwysedd hwn a'i gadw yn wyneb siom ac annealltwriaeth oedd camp Miall Edwards. Golygodd gau'r gagendor rhwng moeseg a gwleidydd- iaeth mewn cyfnod pryd yr amheuid a allai dynion ddatrys problemau mwyaf sylfaenol cyd-fyw. Golygodd gynllunio gwell a glanach byd i fod yn deilwng o'i alw'n Deyrnas Crist. Nid cyd-ddigwyddiad oedd i Edwards fentro cyfieithu emyn Blake i'r Gymraeg yn yr un flwyddyn ag yr ymgymerodd â golygyddiaeth yr Efrydydd: Bangor NODIADAU 1 'Diwinyddiaeth T. Gwynn Jones', Y Brenin Alltud (Llandybie, 1974), t. 73. 2 Hanes Annibynwyr Cymru (Dinbych, 1966), t. 294. 3 YDysgedydd, Mawrth 1916. 4 ibid. 5 YDysgedydd, Ebrill 1916. 6 Y Dysgedydd, Ionawr 1916. 7 ibid. 8 YDysgedydd, Awst 1917. 9 Y Beìrniad, Gwanwyn 1916. 10 YDysgedydd, Mawrth 1916. 11 Crist a Gwareiddiad (Dolgellau, 1921), t. 22. 12 ibid t. 24. 13 Yr Efrydydd, Mawrth 1921. 14 D. Miall Edwards a M. E. Davies, Cyflwr Crefyddyng Nghymru (Wrecsam, 1924), t. 5. 15 YrEfrydydd, loc. cit. 16 YrEfrydydd, Ionawr 1922. 17 Crist a Gwareiddiad, t. 54. 18 ibidt. 56. Ni chwsg fy nghleddyf yn fy llaw, Ni ddianc f'enaid rhag y gad, Nes codi mur lerwsalem Ar feysydd gwyrddlas Cymru fad. T. ROBIN CHAPMAN