Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cerddi AMSERLEN SERCH Un awr ddiniwed ydoedd pan y'i ganed, Dwy law'n braidd-gyffwrdd yn gytûn Ar ddamwain o ddau begwn a ddaeth yno'n un. Plethai sibrydion cyfrinachau tawel Hwn mewn awel ger y lli neu rodfa'r mynydd, A'r bwrlwm ffynnon a dryloywai beunydd. O'i gyntaf gyffro yn y fron ddisgwylgar, Freued, eiddiled ydoedd cwrs ei ddyddiau, Bron na ollyngai ei ffydd wan o'i freichiau. O ddyfnlas lyn y llygaid cerddodd gwefr Ar frys dilafar, ac o'r cyd-gyfnewid r. Lluniwyd y gadwyn ddyddiau tua chaethglud rhyddid. Deffroes yn ddistaw o fudandod awr Chwareus, ysgafnfryd yn unigedd man A glywodd amnaid ei anadliad gwan. Er crynu ohono unwaith megis gwawn Y perthi a'i sigo yng ngrym noeth y gwyntoedd, Grymusodd megis dur yn ei amseroedd. Gweodd y ddeublyg sgain drwy'r drin a'r hindda, A'i hanfod mewnaf bellach ydyw llawn Aeddfedrwydd serch tymor eu hwyr brynhawn. Y Barri. J. M. Edwards.