Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyffesion Awstin Sant GORCHWYL yn galw am galon ddewr oedd ymgymryd â chyf- ieithu Cyffesion Awstin Sant a gallwn ddiolch i'r Parch. A. M. Thomas am wneud y gymwynas â gwaith mawr ei gyfenw. Mae anawsterau yn codi o lawer cyfeiriad. Un ydyw arddull Awstin ei hun sydd ymhlith cymynroddion llai caredig yr hen fyd. Mae haen o arddull Cicero o dan yr arddull hon ond fe'i gorchuddiwyd gan ddylanwad swydd Awstin o ddysgu rhethreg am Hynyddoedd lawer. At hynny, yr oedd i'r Affrig ei thraddod- iad arbennig mewn arddull, a welir ar ei heithaf yn Tertulian ac Apuleius ac ni ddihangodd Awstin yntau rhag ei dylanwad. Effaith y cyfan yw arddull sy'n ceisio pwynt epigramaidd ac yn gallu cynhyrchu brawddegau byr a chryno a bachog ond yn colli ei gafael ar rediad pargraffau sy'n mynd weithiau yn llwyr ar ddisberod cyn cyrraedd eu cyniffonnau. Gellir cydymdeimlo hefyd ag Awstin am ei fod yn trafod materion sy'n bur newydd yn Lladin, h.y., ochr bersonol a seicolegol i'r grefydd o'i gwrth- gyferbynnu â'r ochr sefydliadol ac eglwysig. Ond, ar y llaw arall, yr oedd ganddo ddawn arbennig, yn anffodus, i dorri ar linyn ei ymresymiad a dilyn llwybrau diarffordd hirion cyn dod yn ôl at ei bwynt (e.e., VIII, 20-27, tt. 125-128). Anhawster arall yw fod y Cÿffesion yn llawn o ddyfyniadau ysgrythurol o destun gwahanol i'r Fwlgat, heb sôn am yr Hebraeg a'r Groeg sydd tu ôl i'n fersiynau ni. Golyga hyn gyfieithun ofalus ar brydiau rhag i'r amrywiadau hyn amharu ar syniadaeth Awstin, os llithrir i eiriad y cyfieithiad Cymraeg cyffredin. Dro arall, mae gwead y geiriau mor glòs fel mae'n anodd gwybod lle mae'r dyfyniad yn darfod a geiriau Awstin yn dechrau. I ddarllenydd y cyfieithiad hwn bu'r argraffwyr yn angharedig drwy lanw tudalen hir heb yr un pennawd na chyfeiriad i ddangos y ffordd. Ac yn waeth na'r cyfan, ni roddwyd rhif na phennod na pharagraff fel y bu raid i'r adolygydd presennol rifo pob paragraff drwy'r 184 tudalen. Prin y gall drudaniaeth ein Cyffesion Awstin Sant, cyfieithiad gan Awstin Maximilian Thomas (Llyfrfa'r M.C., Caernarfon), t. 184. £ 1.50 Dyfynnir y cyfieithiad wrth rif y llyfr a'r paragraff yn ogystal â rhif y tudalen, er mwyn hwyluso cyfeirio at y testun a'r cyfieithiad.