Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JOHN THOMAS JÒB (1867—1938) Ymhlith y rhai y dethlir eu canmlwyddiant eleni gellir enwi'r Parch. John Thomas Jôb, emynydd, pregethwr a bardd, a anwyd yn Llandybïe yn sir Gaerfyrddin 21 Mai 1867. Priodol, ymhen canrif, yw gosod ychydig gofion amdano at ei gilydd. Ganwyd ei dad, John Jôb, yn y "Bell Farm," Cydweli, yn y flwyddyn 1823. Brawd iddo oedd yr hynod Ddr. Thomas Jôb, Cynwyl Elfed (1825-98). Daeth John Jôb i Landybïe ynglŷn â'r fasnach galch, ac wedi hynny ymddiddorodd yn y fasnach lo. Ef oedd goruchwyliwr Odyn Galch Cilyrychen, sy'n parhau i gyn- hyrchu calch hyd heddiw. Nepell o Gilyrychen y mae ffermdy'r Tŷ Isaf, lIe trigai gynt William Harries, blaenor parchus gyda'r Methodistiaid yn Llandybïe. Ganwyd Mary, ei ferch, yn 1826- ryw dair blynedd cyn codi cysegr gan y Methodistiaid yn Llandybie. Ymhoffodd John Jôb yn y ferch, a phriodwyd hwy 28 Mawrth 1860. Gwnaethant eu cartref yn Sunny Hill, ar gẁr y pentref, a bu'r ty hwnnw yn gartref i bregethwyr yr Hen Gorff am dros ugain mlynedd. Symudodd y teulu i bentre bychan Cross Inn, yn yr un plwyf-Rhydaman yn awr-yn 1882, ac yno y bu farw'r ddeuddyn, ef yn 1886 a hithau yn 1898. Claddwyd hwy ill dau ym mynwent y plwyf, Llandybïe. Tua deng mlynedd ar hugain yn ôl gwelais ddyddiaduron John Jôb a'i blant sy'n cynnwys nodiadau byr am fasnach a chrefydd y teulu yn ogystal â digwyddiadau teuluol. Ac o'r dyddiaduron hynny y lloffwyd llawer o fanylion ar gyfer yr ysgrif hon. Yn ôl hen lyfr bedydd capel Gosen, Llandybïe, fe anwyd pump o blant i John a Mary Jôb, sef William Mansel (1861), David Harries (1862, a fu farw 29 Meh. 1868), John Thomas (1864, a fu farw yn ei faban- dod), Margaret (1866), a John Thomas (1867). Bedyddiwyd yr olaf gan y Parch. B. D. Thomas, Llandeilo, 18 Awst 1867. Bu William Mansel a Margaret Jôb yn trigo gyda'i gilydd yn yr hen gartref gerllaw capel Bethany, Rhydaman, am flynyddoedd lawer. Y ddau yn ddi-briod, ac yn gymeriadau difyr i'w ryfeddu yn eu cartref. Treuliais lawer awr ddiddan ar eu haelwyd fin nos, a chael hanesion ganddynt am yr hen bethau. Yr oedd William Mansel Jôb yn glerc am flynyddoedd yng nglofa Cae'r-bryn (a agorwyd gan ei dad ac