Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ti dy hun, anturia ar y ffydd yma sydd gennyt yn Nuw". Yr arf a ddefnyddiodd Crist yn amddiffynfa yn y temtiad cyntaf, dyma'r diafol yn awr yn ei ddefnyddio i ymosod arno, gan ddyfynnu Salm 91. Nid amheuodd yr Iesu gywirdeb y dyfyniad o'r ysgrythur, ond etyb gan ddywedyd, "Ysgrifennwyd drachefn, rhaid derbyn y cwbl o eiriau Duw, rhaid gwneud yr iawn ddefnydd ohono, ond ni ellir gwneud hynny ond drwy ei dderbyn fel cyfangorff. Ni ellir sylfeini unrhyw ddeddf neu egwyddor bywyd ar unrhyw un frawddeg ohono; dyna'r paham y cyfyd cymaint o heresïau. "Ysgrifennwyd drachefn", meddai'r Iesu, gan ddyfynnu o Deuteronomium 6 pen., 16 adn., "na themtia yr Arglwydd dy Dduw"-dyfynnu gorchymyn a roddwyd i ddynion. Ymladd brwydr dros ddyn wna2r Iesu, a dengys ei gydymffurfiad â'r gorchmynion a roddwyd i ddyn ei barodrwydd i gredu mai trwy ufuddhau i'r gorchmynion mae cael yr oruchafiaeth mewn bywyd. Gwrthododd ei daflu ei hun i lawr 0 binacl y deml, gwrthododd ffordd glyfar, gyfrwys i ddenu sylw er cael gafael yn y bobl i gyflawni ei weinidogaeth; ei safbwynt o hyd oedd "Bodlon os caf ymaflyd yn dy law"—perSaith deyrngarwch ac ymostyngiad i ffordd Duw i gyflawni ei amcan. Dyna ffordd ffydd, temtia diafol o hyd, gwna rhywbeth rhamantus, rhywbeth eithriadol i brofi'th hyder yn Nuw, ond gwyr y gwir ffyddiog mai mewn amheuaeth y gelwir am arwyddion. Credodd yr Iesu mai fr gradd- au y byddai ef fodlon i ewyllys ei Dad, ac y byddai yn ufudd i'w orchmynion y gallai fod yn goncwerwr. Wedi ei orchfygu ddwywaith, mae diafol yn cynnig eto y drydedd waith. Yr oedd ei ymosodiad ar y lefel anianol i gael gan yr Iesu i ymwrthod a pharhau i blygu i ewyllys Duw wedi methu, ac eto ar y lefel ysbrydol methodd danseilio ei ymddiriedaeth yn fforddDùw o weithio. Bellach gwna un ymosodiad arall; ceisia yn awr ganddo gefnu'n llwyr ar Dduw a'i addoli ef, ac felly gwrthod y comisiwn a roddwyd iddo ar y ddaear. Nid ceisio chwalu cymer- iad. yr Iesu-methodd- yn hynny o beth—^ond bellach ceisiodd ei rwystro i gyflawni y gwaith yr ordeiniwyd ef i'w wneuthur, sef cymodi dynion â Duw a sefydlu cyflwr o lywodraeth byd ysbryd ar ddaear bechadurus; mewn gair, sefydlu Teyrnas Nefoedd ar y ddaear.