Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"Gellir dweud felly fod ymarfer a hyfforddiant yn codi effeithlonrwydd y prawf lIe mae'n amlwg mai hyn a olygir yw “ bod ymarfer a hyfforddiant yn gwneud y prawf yn fwy effeithiol." Ac onid gwell fuasai dweud (t. 88) bod "nifer o awdurdodau lleol wedi manteisio ar y cymorth" yn hytrach na "cymer nifer o awdurdodau lleol fantais o'i gymorth"? Dwy duedd arall sy'n fwrn mewn llawer o lyfrau yn anffodus defnyddio'r adroddiad o He bo of yn Saesneg: "mwyafrif o'r dioddefwyr" yn hytrach na "mwyafrif y dioddefwyr; a'r llall yw'r fel i ddynodi traethiad yn lle'i gadw i ddangos cymhariaeth. Ceir enghraifft ar dud 81, lle dywedir "pan fo plentyn yn cael ei gofrestru fel plentyn diffygiol ei feddwl": eithr "plentyn diffygiol ei feddwl" ydyw, nid un tebyg i blentyn felly, a ffordd y Gymraeg o ddweud hyn fyddai "pan fo plentyn yn cael ei gofrestru yn blentyn diffygiol ei feddwl Ni buaswn yn ceintach fel hyn onibai fy mod yn croesawu'r llyfr arloesol a phwysig hwn yn galonnog, ac felly hoffwn i'w iaith fod nid yn unig yn lân ond yn loyw er mwyn iddo fod yn batrwm yn ei faes i awduron a myfyrwyr. Sylwais ar nifer o bethau nad ydynt yn amlwg ond llithriadau wrth fynd trwy'r wasg, ac y mae'n siwr y cywirir hwy gan y Golygydd erbyn yr ail argraffiad. W. BEYNON DAVIES THE WELSH IN AMERICA. LETTERS FROM THE IMMIGRANTS. Edited by Alan Conway. Cardiff: Unwersity of Wales Press, 1961. 341 pp. Price 35/ Ar waethaf sêl Gwasg Prifysgol Cymru llyfr o'r America yw hwn. Prif- ysgol Minnesota biau'r hawlfraint ac yn yr Unol Daleithiau y'i printiwyd. Adlewyrchir hyn yn glir yn y papur da, argraffwaith graenus a'r diwyg atyniadol sy'n cyfleu'r syniad o lyfr hamddenol na fu'n rhaid cwtogi gormod arno. Bu'n rhaid wrth gwrs i'r Golygydd gwtogi cryn dipyn ar y llythyrau sy'n ffurfio rhan helaethaf o'r gyfrol, a diddorol yw sylwi mai arbenigwr yn hanes America yn hytrach na hanes Cymru yng Ngholeg Aberystwyth ydyw Mr. Conway, a Sais yn ogystal. Naturiol felly a fyddai disgwyl i'r gyfrol ogwyddo at y farchnad Americanaidd, ac i'r detholiadau gael eu dewis i ddangos cyf- raniad y Cymry i ddatblygiad y genedl newydd yn y Gorllewin yn ystod y ganrif ddiwethaf, gan ddatguddio yn bennaf amgylchiadau yn yr America yn ystod y cyfnod holl-bwysig hwn. Ac yn sicr fe geir hyn yn effeithiol ddigon. Ar yr un pryd nid llai yw diddordeb y gyfrol i ni'r Cymry. Os talfyrrwyd y disgrifiadau o'r hen wlad, a'r cyfeiriadau at yr amgylchiadau yng Nghymru a barodd i'r ymfudwyr benderfynu cychwyn ar eu taith, onid dyna'r ffeithiau sydd yn fwyaf cyfarwydd i ni, tra bod hanes ein cydwladwyr ar ôl iddynt gyrraedd eu cartrefi newydd yn fwy dieithr? Mae'n wir y gallem ni Gymry Cymraeg ddod o hyd i'r mwyafrif mawr o'r llythyrau hyn yn hen gyfnodolion enwadol a phapurau newydd y ganrif ddiwethaf (y mae eraill ohonynt mewn casgliadau yn y Llyfrgell Genedlaethol a nifer fach mewn dwylo preifat) ond y mae eu cael mewn cyfrol hardd fel hon yn hwylustod mawr i ni, a bydd yn