Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

RHAI SYLWADAU AR YSBRYDOLIAETH PAN glywais gyntaf mai "Pregethu" ydoedd pwnc y gynhadledd hon gwyddwn yn eithaf da mai prin y gallwn gyfrannu fawr mewn sylwedd na gwerth i'w thrafodaethau. Er hynny mentrais ar ym- chwil ddigon petrus i rai agweddau ar y symbyliad, ar y cyffro, sy'n ennyn-neu a ddylai eneinio-y neb a alwyd i bregethu'r Gair. Mae'n hysbys fod gweithgareddau Dyn yn cynnwys yr elfennau o greu ac o gyfansoddi, o gyffro a chyfrwng, ac ni ellir eu gwahanu wrth ystyried y gwaith gorffenedig, mae'r naill yn ymdoddi i'r llall yn union fel, dyweder, y meddwl a'r corff. Ac y mae i bregethu hefyd, 'ddyliwn i, yr un hanfodion-yr hanfod o greu a'r hanfod o gyfansoddi. Gellir cymharu hyn yn weddol rwydd, mi gredaf, i farddoniaeth a phrydyddiaeth; mae'r sawl aiff ati i lunio pwt o bregeth yn cyfansoddi yn union fel prydydd yn llunio pwt o englyn. Nid yw'r elfen greadigol wirioneddol i'w chanfod mewn gwaith o'r fath; orefft ydyw felly ac nid galwedigaeth. Ond mae'r sawl a deimla fod galwedigaeth arno i bregethu, a ohyda ryw oleuni mewnol yn ei efengyl, i'w gymharu i'r bardd yn hytrach nag i'r prydydd-yr enaid hwnnw, cyfarwydd a pherlewyg ac artaith, sy'n gorfod gwasgu ei ysbrydoliaeth, ei awen, ei greadigaeth gysefin, i mewn i gyfrwng cyfyngedig ei iaith ac i hualau mesur a mydr. I'r bardd ei gyffro, ir prydydd ei gynghanedd. Wrth gwrs, gor-symleiddio yw hyn a rhannu artiffisial, ac fel y mae i bob darn o farddoniaeth ei gyffro a'i gyfrwng, felly hefyd pob pregethu; oherwydd heb y naill, y cyfrwng, nid oes iddi ystyr, ac heb y llall, y cyffro, nid oes iddi bwrpas. Ond hanfod cyntaf celf- yddyd, a phregethu yr unmodd, yw'r grym oreadigol; oherwydd heb y cyffro ysbrydoledig hwnnw mae gwaith y bardd yn wagsaw, y cerddor yn aflafar, yr arlunydd yn rhodresgar, a'r pregethwr megis efydd yn seinio neu simbal yn tincian. Er yr holl glodfori a fu, ac y sydd, ar hoelion wyth y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym mhul- pudau Cymru, areithyddiaeth fwriadol, a dyfeisiadol yn ogystal, oedd llawer o'u pregethu; o leiaf ymddengys felly i ni, hir Hynydd- Cynhadledd Undeb Athrofa'r Bala a gynhaliwyd yn Llandudno Mai 8-11, 1961