Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ryfela petai ei milwyr yn gwrthod, ond gan mai aelodau o'r Wladwriaeth yw'r milwyr y mae ganddynt bob hawl i gytuno neu i anghytuno â barn y mwyafrif. A chan fod y cyd-syniad yma yn gorffwys ar yr egwyddor fod y milwyr, wrth ymladd, yn cytuno i ufuddhau er mwyn arbed y byd a'i waredu oddi wrth rywbeth llawer gwaeth na rhyfel, y mae'r cyd-syniad yn gorffwys ar dir anhraethol gryfach a diogelach na barn unigol y milwr ei hun. Y mae'n bwysig i ni sylweddoli fod gan y milwr gydwybod fel y pasiffydd. Pan gymer y pasiffydd arno'i hun anufuddhau i alwad ei gyd- ddynion, y mae yn symud y cyfrifoldeb oddi ar ysgwydd cym- deithas ar y mater hwn, ac yn ei dderbyn ar ei ysgwydd ei hun. A dylai pob pasiffydd ofyn iddo'i hunan y cwestiwn anodd hwn -`` A ydwyf fi, trwy wrthod ymladd, yn ddieuog o fod yn achos i elyn creulon ladd pobl ddiniwed?" Dylai ofyn hefyd A ydwyf fi, trwy wrthod ymladd yn cynorthwyo mewn difrod a drygioni sy'n anhraethol waeth nag ymladd?" Mewn cynhadledd basifìistaidd ar ôl y rhyfel diwethaf, fe gododd brawd ar ei draed, estynnodd allan ei ddwylo, a dywed- odd yn ddwys-H Yr wyf yn diolch i Dduw nad oes dim gwaed ar y dwylo hyn." Mi glywais fod effaith y datganiad ar y foment yn syfrdanol. Ond atolwg-A oedd y datganiad yn wirì Maen- tumiaf ei fod ymhell iawn o fod yn wir. Er na allai'r brawd hwnnw mo'r help fod ei gyd-ddinasyddion yn rhyfela, eto, yr un pryd, ni allai ef chwaith, trwy wrthod pob cymorth iddynt, ddim newid y ffaith eu bod yn rhyfela. Felly yr oedd yn gorfod byw dan holl amodau gwlad mewn brwydr ingol am ei bywyd, gyda'r cwbl a olygai hynny. Ond fe ddylai fod wedi meddwl, cyn gwneud y fath ddafgan- iad, nad oedd y gweddill o drigolion Prydain, er eu bod yn cyd- synio â'r rhyfel fymryn mwy cyfrifol amdano nag oedd yntau. Yn wir yr oedd cyflwr gresynus ein hamddiffynfeydd a'n harfog- aethau yn brawf nad oedd unrhyw ysbryd rhyfelgar nac ymosod- ol ynom fel gwladwriaeth, ac yr oedd difaterwch y Llywodraeth, dan Stanley Baldwin, yn fynegiant cywir o'r ysbryd heddychol a ffynnai ymhob dosbarth drwy'n gwlad. Daeth yn ffasiynol i gondemnio Baldwin fel pasiffydd, ond oni chytunai pawb ohonom a'i bolisi, hyd yn oed ar ôl inni weled y perygl?