Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Llwyngwril. Llansannan I Piau glodydd diddiwedd ? Pencampwr cynydd Gwynedd, Tudur Aled, fab Heledd. Piau dysg bardd a phroffwyd ? 'R athro Gruffudd a guddiwyd, Is Callen dan d'warchen lwyd. Piau Archwedlog a'i nef? Hen alltud ymhell o'i dref, Capten Gwilym Canoldref. Piau'r Chwibren a'i henfri? Nefoedd lwyd a'i phroffwydi; Wiliam Rees, Wiliam Salbri. Piau Fryn Bugad a'i fri ? Saint y seiat a'r weddi; Margied Huws, Edward Parri. II Piau swyn Rhyd-yr-arian? Beirddion, yn fawrion, yn fân, A llon seiniau Llansannan. Piau dristwch Rhyd-y-Bedd? Calonnau caeth pob annedd, Na wybu wyrth wrth byrth bedd. Piau heddwch Hiraethog? Gwennol pan ddaw'n ôl, a'r gog; Llwyni y grug, a'r llwynog. Piau hud y Garreg Gron? Arthur a'i ddur a'i ddewrion Codant o'u hun yn union. ABEL FFOWCS Williams