Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

i'w dweud am John Morgan o Lanllechid a Chonwy nag a geir ar td. xl.; Benjamin Hoadley oedd yr esgob, nid Samuel (xlvii.); dim gair am y rowiau diddiwedd ymhlith prif awdurdodau'r esgobaeth yng ngyswllt y ddwy garirif pan oedd Ymneilltuaeth yn lledu cortyn- nau ei phreswylfeydd ymhob cyfeiriad. Fe gyfeddyf Mr. Pryce fwy nag unwaith mai Saeson rhonc, a edrychai ar orsedd Bangor íel troedfainc i safle well a mwy proffidiol, oedd ymron bob un o'r esgob- ion yn y ddeunawfed ganrif. Nid drwg fyddai iddo gymryd yr Esgob Moore (1775 — 1783) yn enghraifft, gwr a godwyd o Fangor yn syth i Gaergaint. Cyn dod i Fangor ceir ei enw ef tfel un o'r tystion i weithred gyfreithiol a drosglwyddai diroedd yn India'r Gorllewin o un llaw i'r Hall, tiroedd y cedwid arnynt gaethion lawer. Prin y gellir dweud bod arwyddo'r weithred hon yn bechod ynddo; prin y gellir profi ei fod yn pleidio'r gaethfasnach yn uniongyrchol; ond ni ellir dianc rhag cymharu'r ysbryd secular hwn, y gyfathrach â chyfreithwyr a thiroedd, â nerthoedd diwrthdro muddadau Whitfield a Wesley. Ac nid oedd Moore, wedi'r cwbl, agos cyn waethed â'r Deon Shipley o Lanelwy, yr hwn yn bendifaddau a dderbyniai gan- noedd o bunnau bob blwyddyn oddi wrth ystadiau siwgr yn y Gor- Uewin, ystadiau a weithid bob un gan gaethweision. 0 daflu ail olwg dros y gwaith, fe welir y cyffyrddir â rhai pwynt- iau o egwyddor ynddo y gellid dadlau yn eu cylch am hanner oes, fod rhai manion anghywir heb eu cywiro, fod rhai pethau heb eu dweud y dylid eu dweud. Onid yw hyn yn wir am bob llyfr da? Llyfr ysgolheigaidd ydyw hwn gan ysgolor o'r iawn ryw, meistr ar ei waith, cartrefol yn ei fater. Gwyn fyd na fai mwy o lyfrau yn debyg dddo. Bangor. THOMAS RICHARDS. Y PARCH. JOHN PULESTON JONES, M.A., D.D. Gan R. W. Jones, Caergybi. Td. 312. Pris 5/ Caernarfon Argraffdy'r Methodistiaid Calfinaidd. Cydnebydd pawb mai gwr anodd iawn ydyw Puleston i wneud «cofianit teilwng ohono. Yr oedd ei allu mor amlochrog, ei ddychymyg mor fyw, a'i bersonoliaeth mor gyfoethog o swynion cytfriniol fel y mae bron yn amhosibl cyfleu ei nodweddion mewn geiriau, ac ar yr un pryd wneud chwarae teg â'r gwr annwyl hwn. Ymhellach, fe ddaeth i gyffyrddiad agos iawn a'r gwyr ieuanc a drawsnewidient fywyd Cymru yn y dadeni diweddar, a bu ei ddylanwad yn fawr ac arosol arnynt, fel mai un ydyw ei hanes ef a hanes addysg a chrefydd Cymru yn y tymor pwysig hwn. Mae ffrwyth ei feddwl aeddfed ar bynciau mwyaf dyrys bywyd, o'r pulpud a'r Uwyfan, mewn pregeth ac erthygl a chyfrol, yn haeddu sylw ditfrifol yr oes hon: ac felly, er gwneud ein gorau, y mae'n annodd bodloni ar gof- iant byr. Mae cynllun y cofiant hwn yn syml a naturiol iawn: dilyna gwrs bywyd Puleston o'i febyd i'w fedd yn glir a swynol dros ben. Ar ôl dechrau ei ddarllen, rhaid fydd parhau ym'laen, ac nid oes ond edi- feirwch pan ddeuir i'r pen. Trinir gan law fedrus wahanol adrannau ei fywyd-mnser ysgol a choleg a gweinidogaeth­a daw agweddau priod pob cyfnod allan yn glir yn y darlun. Mae'r daith yn eglur a hawdd ei deall, iaith y gwerinwr coeth yw, Cymraeg ystwyth a phrydferth, a chiliodd y darlunydd yn llwyr o'r goJwg, canys Pules- ton yn unig a geir yn y cofiant drwyddo draw