Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DDOE, HEDDIW AC YFORY. ADWAENWN lanc, ac ef yng ngwynfyd y seithmlwydd oed, a gyfarfu un bore ag awdur Tir y Dyneddon," y Parch- edig E. Tegla Davies, M.A. Clybum innau yn ddiwedd- arach gyfeiriad yr ymgom gymerodd Ie rhyngddynt. A ddaeth eich tad adre, John?" Naddo eto, Mr. Davies. yfory y mae o'n dod." Yna chwanegodd y dynyn y poser canlynol er mawr ddifyrrwch i'r llenor a gymer gymaint o ddiddordeb yn nywediadau plant: Ddoe fydd heddiw pan ddaw yfory, ynte, Mr. Davies?" Bu'r sylw'n ddeu- nydd chwerthiniad iach i ni ein dau yn ddiweddarach. Beth bynnag a allasai fod yn achlysur i'r gofyniad yng nghefndir meddwl y llanc a'i gofynnodd, diau y sylwedd- olai, fel y rhaid i bawb ohonom sylweddoli bod Ddoe," Heddiw ac Yfory yng nghlwm a'i gilycTd yng nghadwyn aur bywyd. Y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, a'r tri hyn yn un y maent yn cytuno." Myntymia'r meddyliwr cyfrin- iol, y Sadhu Sundar Singh o'r India, na fedd y presennol fodolaeth ar wahan, gan nad ydyw namyn mynediad y dyfodol i'r gorffennol. Cyfyd pob moment o'r dyfodol, a llithra i'r gorffennol gyda chyflymder aruthr. Ym mhell- ach nid yw'r dyfodol na'r gorffennol ychwaith yn bod inni gan eu bod allan o'n cyrraedd. Erbyn meddwl, rhyfedd ac ofnadwy ydyw amser, canys darn o dragwyddoldeb ydyw Out of Eternity The New Day is born Into Eternity At night will return. — Carlyle. Cyn gyflymed a gwennol gwehydd, ys dywed Ysgryth- ur, y rhed y munudau ar eu rhawd, i droi Heddiw yn "Ddoe!" Some say to-morrow never comes, A saying oft thought right; But if to-morrow never came, No end were of to-night." The fact is this, time flies so fast That e'er we've time to say, To-morrow's come, presto behold To-morrow proves To-day." — Anad.