Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLYTHYR EWYTHR AT EI NAI. Fv Anwyl Naτ,-Byth er pan hysbyswyd fi yn llythyr dy fam dy fod wedi dechreu pregethu, yr wyf wedi bod yn meddwl o hyd am anfon tipyn o lythyr atat. Mor rhyfedd yr oedd y peth yn fy nharo ar y cyntaf. Nid oedd ond fel doe gennyf dy adgofio yn beth bychan, siriol, penfelyn, yn dangos i mi Feibl newydd oeddit wedi gael am ddweyd dy adnod yn uchel ac yn glir yn y seiat gan yr hen chwaer selog Aels Llwyd. Yr oedd hi yn bedwar ugain, yn ei deall bob gair. Chwith oedd gennyf weled yn y newyddiadur ei bod hithau wedi myn'd. Bu yn ddigon heinyf gynt i gerdded ffordd arw y mynydd- oedd o gwr eithaf Sir Feirionydd yna bob blwyddyn i Sasiwn y Bala. Yr oedd yn amod ei chyflogiad bob amser iddi gael y fraint honno. Gwnaeth hynny am un mlynedd ar hugain heb fethu un. Gwelais ei llyfr-cofnodion, y pregethau wrandawodd, wedi ei roddi yn anrheg i'w gadw yn y Coleg yn y Bala ganddi. Ond y mae Aels Llwyd wedi ymuno â'r hen gyfeillion y bu yn cydwledda â hwy ar y Green un- waith eto yn y gymanfa fawr berffeithiedig ar Fynydd Seion. Cofia ddal i ddweyd dy adnod yn uchel a hyglyw o hyd, ac os na chei wobr eto am hynny ti gei glod a chymeradwyaeth pob cynulleidfa. Bydd aml bregethwr yn dweyd ei destyn mor isel fel pe na byddai o bwys i neb ond gwyr y set fawr ei glywed. I wneud yr anfantais yn fwy byddant wedi rhuthro yn ffwdanus i'w ddarllen^cyn y bydd y gynull- eidfa wedi cael amser i eistedd yn iawn ar 01 y canu, ac ymlonyddu a rhoddi eu hunain mewn agwedd briodol i wrando. Cymer hamdden a pnwyll i ddweyd yn eglur lle y bydd y testyn, a darllen ef yn glir, yn bwysleisiol, ac yn feddylgar, gan gofio yn wastad fod Gair Sanct- aidd Duw yn haeddu goreu dyn. Yr un pryd gochel ryw ffordd gwmpasog felly o'i ddweyd: Y mae y gyfran o Air yr Arglwydd yr ymdrechwn, os gallwn wneuthur ychydig sylwadau pellach arni, i'w gweled yn Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist, a ysgrifennwyd gan yr Efengylwr Matthew." Gochel bob rhyw eiriau llanw, gwag, ac ystrydebol o'r fath ym mhob pregeth ac araeth. Dyna iti frawddeg a arferir yn aml iawn yn y weddi fèr ar ddiwedd y bregeth, nad wyf erioed wedi deall o ba le y daeth, yr wyf yn gwybod nad yw yn adnod, ond y mae wedi myned mor hen fel y dylai gael noswylio bellach. Os dywedwyd yma ryw air oedd yn unol â'th ewyllys sanctaidd, dilyn ef â'th fendith." Rhywair! — fe fydd pob gair yn unol â'i ewyllys os byddi a'th holl feddwl ac â'th holl galon o ddifrif yn y gwaith, gan ymdrechu yn syml ei ogoneddu Ef. Cofia dy fod yn gwasanaethu Meistr anrhydeddus, ac y mae pob meistr felly yn rhoddi llawer o ryddid i'r rhai sydd yn ei wasanaeth i wneud y gwaith