Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLWG AR BETH O HANES COFRESTRU MEDDYGON YNG NGHYMRU T. G. (Tom) Davies A barnu wrth gynnwys y cylchgronau meddygol Seisnig, ni fu'r flwyddyn 1858 yn rhyfeddol o gyffrous o safbwynt datblygiadau newydd. Yr oedd anesthetegau wedi cael eu defnyddio'n gyson am fwy na degawd, ac ni fyddai Joseph Lister (1827-1912) yn cyhoeddi canlyniadau cyntaf ei waith arloesol ym maes gwrth-heintio nes bod dwy flynedd yn ddiweddarach. Y tu allan i fyd meddygaeth, nid oedd y diwygiad crefyddol a droes Cymru yn wlad ddirwestol (dros dro), na damcaniaeth enwog Charles Darwin, wedi cyrraedd eto. Ond cafwyd un digwyddiad a oedd, yn ei ffordd ei hun, mor bellgyrhaeddol ei effeithiau â'r Ueill a enwyd, er pwysiced y rheiny. Oblegid, yn y flwyddyn honno, digwyddodd chwyldro mewn meddygaeth trwy wledydd Prydain na welwyd ei fath cyn hynny. Hon oedd y flwyddyn pan basiwyd deddf i sicrhau y cedwid cofrestr feddygol swyddogol. Y cyfnod cynnar Bu'r frwydr a arweiniodd at gael y newid hwn yn y gyfraith yn un galed. O bryd i'w gilydd dros y canrifoedd, mynegwyd pryder am fod niferoedd nad oedd ganddynt y sgiliau priodol yn gweithredu fel meddygon. Rhoddwyd yr hawl i drwyddedu meddygon i esgobion Eglwys Loegr yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Er nad yw cofnodion yr Eglwys yng Nghymru yn ymestyn yn ôl mor bell â hynny, ceir ynddynt enghreifftiau diweddarach o'r ffordd y gweithredwyd y gyfundrefn gofrestru gyntefig honno. Ceir cadarnhad o rai ffynonellau eraill nad oedd rhif y rhai a restrwyd o Gymru yn fawr.1 Parhaodd yr arferiad o ofyn am drwydded esgob ar gyfer gwaith meddygol trwy'r ddeunawfed ganrif. Cymerer, er enghraifft, amgylchiadau John Jones, Llandysul, sir Aberteifi. Danfonwyd deiseb i'r esgob yn 1717 oddi wrth ynadon a chlerigwyr y cylch, yn gofyn am iddo gael ei drwyddedu fel ffisigwr a llawfeddyg, am nad oes unrhyw lawfeddygon na ffisigwyr proffesedig trwy'r holl sir'. Rhyw gylch anfad o sefyllfa oedd hon, wrth gwrs. Ni feiddiai'r gwyr parchus a lofnodai'r deisebau hyn ymbilio ar ran neb nad oeddent yn gymwys i wneud y gwaith. Ar y llaw arall, yr unig ffordd y gallent fod yn sicr o'u haddasrwydd oedd trwy wybod fod ganddynt brofiad eang yn barod. Cymhlethwyd y sefyllfa gan y byddai wedi bod yn anghyfreithlon iddynt