Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dr Emyr Wyn Jones OBE MD LID FRCP FSA DPH (1907-1999) Bardd o Forgannwg, Iorwerth Fynglwyd, a ysgrifennodd y geiriau a ddaeth i'm cof wrth i mi glywed am ei farwolaeth. Cyfansoddwyd y gerdd hon yn agos i bum canrif yn ôl am Rhys ap Siôn, Aberpergwm: Pa un a gilia pan y'i gelwych? Pwy na ddaw atat pan ddywetych.? Y tro cyntaf i mi gwrdd â Dr Emyr oedd wrth ddrws blaen Gwesty Plas Maenan, Llanrwst, am tua hanner awr wedi naw ar fore' Sadwrn, Tachwedd 15, 1975. Gallaf fod yn sicr o hynny, gan mai bore cynhadledd gyntaf y Gymdeithas Feddygol oedd hi. Yr oedd ef newydd dderbyn llywyddiaeth y Gymdeithas, ac yr oeddwn i, fel yr ysgrifennydd, yno i'w gyfarch wrth iddo gyrraedd.