Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

yn amlach, symudir y golau gyda'r llaw, ac y mae modd rhyddhau'r ddolen er mwyn iddi gael ei diheintio yn y sterilydd ar ôl y driniaeth. Hefyd, y mae'n rhaid i'r fainc weithio fod yn addas, yn hawdd i'w glanhau a'i diheintio, a dylai fod wedi ei gwneud o ddefnydd nad ydyw'n gadael i bethau suddo i mewn i'r defnydd. Dylid penodi pa ran o'r drinfa sydd yn mynd i fod yn "fudr', a pha ran sydd yn mynd i fod yn 'lân'. Wedi gwneud hyn, y mae'n hanfodol bwysig fod y pethau a ddefnyddir yn ystod triniaethau yn cael eu rhoi yn y lleoedd budr yn unig rhag atal heintio'r rhannau o'r drinfa sydd yn cael eu gadael yn lân. Unwaith y mae'r driniaeth wedi cychwyn, dylid cyfyngu cyffwrdd â'r dwylo i'r rhannau budr. Os bydd angen mynd y tu allan i'r darn budr am unrhyw reswm, rhaid diheintio'r dwylo cyn gwneud hynny. Gellir arbed gwneud hyn trwy baratoi ar gyfer y driniaeth o flaen llaw er mwyn cael popeth i law cyn dechrau. Ar ôl y driniaeth, dylid diheintio'r cyfan o'r cyfarpar, a'r lleoedd a gafodd eu heintio yn ystod y driniaeth. Y mae llawer o wahanol gemegau ar gael ar gyfer diheintio'r fainc weithio a'r arwynebedd sydd wedi ei heintio. Wrth ddewis diheintydd, dylid cofio fod y rhai cryfaf, fel gluteraldehyde yn gallu bod yn beryglus i'r sawl sydd yn eu ddefnyddio yn gyson, ac fe all deunydd fel hypochlorite ddinistrio'r cyfarpar. Felly, y mae'n well defnyddio diheintydd fel alcohol sydd yn llai peryglus o ran y staff a'r cyfarpar. Nid yw'r diheintydd ar waith ond am ychydig amser, ac nid oes dim tystiolaeth fod y rhai cryfach yn fwy effeithiol. Yn ôl yr ymchwil a wnaed, y mae'n ymddangos fod maint y rhwbio ar yr arwyneb yn bwysicach na natur y cemegyn. Y mae'n rhaid derbyn na ellir steryllu'r holl ystafell ac mai'r gorau y gellir ei wneud gyda'r rhan fwyaf o'r arwynebau caled ydyw i'w diheintio, ond y mae'n gwbl angenrheidiol i bopeth sydd yn cael ei ddefnyddio yn y geg gael eu taflu neu eu steryllu ar ôl pob triniaeth. Y mae llawer yn fwy o ddefnydd yn cael ei wneud yn awr o bethau tafladwy, ac y mae'n amlwg fod manteision arbennig i hyn. Rhaid cael gwared o'r cyfarpar hwn mewn ffordd briodol. Dylid rhoi nodwyddau a phethau miniog mewn blwch priodol, ac y mae'n rhaid i gyfarpar sydd wedi ei heintio gael ei roi mewn sach arbennig, fel y gellir dinistrio'r sachau a'r blwch miniog mewn modd addas. Yn anffodus, nid ydyw yn bosibl i bopeth a ddefnyddir fod yn dafladwy oherwydd y gost, ac felly, y mae angen rhoi peth deunydd trwy'r sterilydd. Dylid glanhau'r cyfarpar cyn gwneud hynny, trwy ei sgrwbio â brwsh a dwr, ond gall hyn fod yn beryglus i'r sawl sy'n gwneud y gwaith, gan fod y siawns o gael pigiad yn eithaf uchel. Felly, y mae'n Ilawer gwell gwneud y gwaith hwn mewn baddon uwchsonig. Ar ôl ei lanhau, fe'i