Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

cleifion. Felly, y mae'n bwysig dros ben fod y sawl sy'n gweithio yn y maes wedi cael eu brechu yn erbyn yr afiechydon pwysicaf, os yw hyn yn bosibl. Yn wir, erbyn hyn y mae'n angenrheidiol fod pawb sydd yn gweithio gyda chleifion, gan gynnwys nyrsys, wedi eu serodrawsnewid (seroconverted) am Hepatitis B. Y mae atal croes-heintio yn broses eithaf syml yn y pen draw, ond er mwyn iddo fod yn effeithiol y mae'n rhaid i bawb ddeall beth y dylid ei wneud a'r rhesymau dros hynny. Hefyd mae'r Ddeddf lechyd a Diogelwch yn gofyn am hyfforddiant yn y pwnc i bawb sydd yn gweithio mewn trinfa. Er mwyn gwneud yn siwr fod y gofynion yn cael eu hateb yn llawn y mae'n beth da i'r nyrsys ddilyn cwrs ac arholiad Bwrdd Arholi Cenedlaethol Nyrsys Deintyddol. Un o'r pethau pwysicaf yn y broses o atal croes-heintio yw gwneud yn siwr fod digon o amser ar gael i wneud y gwaith yn drwyadl a heb frysio. Y mae hyn yn anodd iawn o dan amodau gwaith y Gwasanaeth Iechyd, ac efallai mai prinder amser yw'r prif reswm fod deintyddion yn gadael y Gwasanaeth Iechyd. Y mae'n arferiad cymryd hanes meddygol oddi wrth gleifion trwy ofyn iddynt lenwi ffurflen, a gofyn cwestiynau. Mae'r ffurflen yn gofyn am hanes o HIV a Hepatitis B, ond ni ellir ddibynnu a'r hyn o gwbl, gan nad yw'r rhan fwyaf o'r cleifion sydd yn cario'r afiechydon hyn yn ymwybodol o hynny. Felly, y mae'n rhaid trin pob claf fel petai yn dioddef o afiechyd heintus. Y mae tystiolaeth ar gael sydd yn awgrymu fod pob deintydd yn trin o leiaf un claf sydd yn cario hepatitis B heb yn wybod (i'r claf ei hun) bob wythnos. I droi at y drinfa ei hun, y mae'n bwysig ei bod wedi ei chynllunio gan gymryd y posibilrwydd o atal croes-heintio i ystyriaeth. Y mae'n rhaid fod modd glanhau a diheintio'r dodrefn, y waliau a'r lloriau yn hawdd. Y mae natur y cyfarpar a ddefnyddir wedi newid dros y blynyddoedd ac y mae'r offer a ddefnyddir bellach wedi ei gynllunio gan ystyried pwysigrwydd atal croes-heintio. Eto, y mae'n angenrheidiol fod y cyfarpar yn hawdd i'w ddiheintio a'i lanhau, ac y mae hyn yn golygu ei fod yn gorfod bod yn llyfn a heb gorneli bychain Ue y gall bacteria a firysau gasglu. Os na ellir glanhau'r cyfarpar yn drwyadl, dylai fod modd tynnu'r darnau yn rhydd, er mwyn eu diheintio mewn diheintydd. Y mae ffurf cadeiriau deintyddol wedi newid hefyd. Yr arfer oedd iddynt gael eu codi a'u gostwng trwy ddefnyddio botymau a oedd wedi eu lleoli ar y cadeiriau. Yn awr, fe'u symudir trwy ddefnyddio botymau sydd yn cael eu gweithio gyda'r traed, er mwyn atal cyffwrdd y gadair â'r dwylo, rhag ofn i hynny heintio'r gadair yn ystod y driniaeth. Y mae'n bosibl cael golau deintyddol sydd yn cael ei weithio yn yr un modd, ond