Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gwael yw Cyfradd Goroesiad Pum Mlynedd y Tyfiant Du yn Lloegr a Chymru, 75% mewn merched a 50% mewn dynion. Mewn erthygl adolygol ddiddorol mae Johnson et alia (6) yn trafod tri ffactor a allent arwain i leihad yn y clefyd hwn. Y cyntaf yw pwysigrwydd pwysleisio yn gyson beryglon torheulo a rhoi gwybodaeth am nodweddion y clefyd. Yr ail yw ceisio adnabod y rhai sydd â mwyaf o risg drwy sylwi ar nifer mannau geni, presenoldeb brychni haul a natur adwaith y croen i haul, yn arbennig nifer o ddigwyddiadau o losg haul. Er na ellir yn hawdd werthuso y ffactorau hyn, rhaid canmol yr ymdrech i adnabod grwp y dylid rhoi sylw arbennig iddo. Yn olaf gofynnodd Johnson a oedd lle i wella mewn gwneud diagnosis cynnar, a dod i'r casgliad nad oedd oediad meddygol ond mewn lleiafrif bychan iawn. Yn rhifyn 26ain o Ragfyr, 1994, o'r Daily Post mynegodd Mr John Phillips, Cyfarwyddwr Llawfeddygaeth Macsilowynebol, Ysbyty Glan Clwyd, ddamcaniaeth fod awyr iach Gogledd Cymru, y mynyddoedd a'r môr yn rhannol gyfrifol am ddigwyddiad uchel canser y croen yn y rhanbarth. Dywedodd fod cymaint o achosion newydd yn codi fel bod arian ychwanegol wedi ei glustnodi ar gyfer triniaeth. Cyn hynny roedd y cleifion yn gorfod aros hyd at naw mis cyn derbyn triniaeth. Yn y blynyddoedd diwethaf yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhoddwyd mwy o bwyslais ar addysg iechyd, a'r dyfodol fydd yn mesur ei lwyddiant. Gallwn hybu'r llwyddiant hwnnw. Cyfeiriadau: 1. Izaac Walton. The Compleat Angler. 1653. Part 1, Chapter 21. 2. District Health Authorities in Wales Recent Trends in Lifestyles. 1985-1990. Technical Reports No.25. CURIAD CALON CYMRU. 3. Godfrey Ch, Raw M, Edwards H, Sutton M. The Cost of Smoking to General Practice. Respiratory Disease in Practice. 4. Morgan W. Blwyddyn Sabothol yn Awstralia. Cennad Cyf 12. Tud 111. 5. Williams Parry T. Awdl Yr Haf. Caniad y Brawd Llwyd. Yr Haf a Cherddi Eraill. Tud 66. Robert Evans a'i Fab, Bala. 1924. 6. Johnson N, Mant D, Newton J, Yudkin P. Role of Primary Care in the Prevention of Malignant Melanoma. The British Journal of General Practice. November, 1994, Vol 44, No.388. Pages 523-527.