Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY Y MAE tymor presennol y dosbarthiadau yn tynnu'n gyflym tua'r terfyn, ac erbyn y bydd y geiriau hyn mewn print, bydd y dosbarthiadau i gyd ar ben; bydd y canghennau wedi cynnal eu Cyf- arfodydd Blynyddol, a'u rhaglenni ar gyfer y tymor nesaf, gobeithiwn, wedi eu cwpla. Braidd yn gynnar yw hi eto i adolygu gweithrediadau'r tymor, ond gwyddom iddo fod mewn llawer ystyr yn dymor llwyddiannus iawn. Yr oedd y Canghennau wedi cynllunio rhaglenni o Ddarlithiau Cyhoeddus ac Ysgolion Undydd yn ofalus, a derbyniwyd hwynt a gwerthfawrogwyd hwynt yn fawr gan bobl o bob gradd a fu'n eu dilyn. Cafodd gweithrediadau Canghennau Abertawe, Castell Nedd, Pontarddulais, a Merthyr, gefnogaeth gyffredinol, a haedda swyddogion y canghennau hyn ein diolchgarwch gwresocaf. Bwriedir cyhoeddi yn fuan y darlithiau a draddodwyd ym Merthyr ar y pwnc, Merthyr. Bu'r rhan fwyaf, ond nid y cwbl, o'r Darlithiau a'r Ysgol- ion Undydd a drefnwyd gan Ganghennau Casnewydd, Llanelli a Llwchwr, yn boblogaidd iawn. Y mae Llanelli, Castell Nedd a Cross Hands, eisoes wedi gorffen eu trefniadau i gynnal Ysgol Haf Ddi- breswyl ar gyfer yr haf a'r hydref nesaf. Cymeraf y cyfle hwn i ddiolch i'r Canghennau a ddewiswyd i ateb cyfres o gwestiynau manwl ar Gyllid a Threfniadau y canghennau. Yr oedd y Working Party Cenedlaethol sydd ar hyn o bryd yn paratoi Adroddiad ar y mater hwn, ar gyfer Cynhadledd Arbennig, wedi pennu fod chwe changen o bob Rhanbarth ym Mhrydain Fawr i roddi'r wybodaeth ofynnol ar Drefniadaeth Canghennau. Y mae'r Canghennau a ddewiswyd yn y De wedi gorffen eu gwaith. Bydd yn ddiddorol gwybod beth fydd cynnwys yr Adroddiad, oherwydd gwyddom fod arferion a gweithgareddau'r Canghennau mewn gwahanol rannau o'r wlad yn amrywio'n ddirfawr. Yr oedd yn hen bryd cael ymchwil ac adolygiad ar gyfansoddiad, cyllid a threfniad- aeth y WEA, ac y mae lle i gredu y gwneir gwaith llwyr arno, o dan arweiniad dynamig ein Llywydd, yr Athro Asa Briggs. Tebyg i'r blynyddoedd o'r blaen fu gwaith y dosbarthiadau yn ystod y tymor hwn. Ni allem ei helaethu oherwydd y cyfyngu yn y grantiau; ond y mae hynny wedi ei lacio erbyn hyn, ac edrychwn ymlaen am gael chwanegu at nifer ein dosbarthiadau y tymor nesaf. Ar ôl cael trafodaethau â Mr Higgins, un o swyddogion Cymdeithas Clybiau Ieuenctid yn Neheudir Cymru, byddwn yn cydweithredu â