Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gwaith Pantycelyn, gan Gomer M. Roberts. Gwasg Aber- ystwyth. 10/6. Rhaid imi ddweud ar y cychwyn nad wyf fardd, nac athionydd, na llenor na cherddor na gwyddonydd; ac i fod yn gwbl onest, dywedaf yr hyn a ddylaswn cyn hyn, sef, nad wyf gymwys i ysgrifennu i gylchgrawn o safon LLEUFER. [Y mae gan y golygydd ei farn ei hun ar hynny]. Darllenais dair cyfrol Gomer Roberts ar Bantycelyn gyda blas, gan fod yn dawel fy meddwl y gallwn dderbyn popeth a ddywed ef am y gŵr hwnnw. Y mae ein dyled fel cenedl yn fawr iddo, canys amlwg ddarfod iddo chwilio a meddwl, gan olrhain popeth i'w darddiad, a chyflwyno'i wybod- aeth yn glir i werin gwlad. Diau fod y cyfrolau hyn yn safonol, ac y parhânt i fod felly am gyfnod maith. Y mae'n amlwg fod Gomer Roberts wedi rhoddi ei hun yn gyfan gwbl i gael gafael ar ei ffeithiau, wedi rhoddi egni meddwl i ddarllen a meddiannu goludoedd Pantycelyn ei hun. Tybed, a geir cyfrol eto ganddo i fynd i mewn i gyfrinach profiadau Pantycelyn? Y mae argraff ar fy meddwl i Emrys ap Iwan ddefnyddio'r ymadrodd "Emynau cnawdol Pantycelyn". Efallai fod pobl eto yn meddwl yr un fath ag ef. Pam? Dyma bethau a ddigwydd i mi'n bersonol: Mewn gwasanaeth ar fore Sul, wrth ddarllen emyn hollol adnabyddus, imi gael golwg newydd hollol ar frawddeg nes ysgytio cryn dipyn arnaf, meddwl newydd a byd newydd, a gorfodir fi i deimlo a chredu fod Pantycelyn yn byw mewn rhyw fyd na wn i fawr iawn am- dano. Fy marn bach i yw ei fod wedi cael tröedigaeth mor fawr a llwyr nes ei wneud yn "greadur newydd"; ac mai yn y greadig- aeth newydd yma y cafodd afael ar ei wir ddawn. 'Rwy'n ar- gyhoeddedig pe caffem ni brofiad ysbrydol real, y darganfyddem ddoniau a oedd yn cysgu, ac at hynny y mynnent weithio. Ym- ddengys i mi fod cariad Pantycelyn yn angerddol trwy ei oes. Bwriadwn ddethol rhai o'i frawddegau anfarwol, ond twt twt. Gyda llaw, paham nad oes Cymdeithas Pantycelyn? Y mae rhai Dafydd ap Gwilym a Goronwy Owen, a Gwyl Dewi. MORGAN GRIFFITH Ym Mhoethder y Tywod, gan W. Hydwedd Boyer. Gwasg y Brython. 7/6. Dyma nofel gan artist llenyddol â gafael ar ei grefft. Y mae'n argyhoeddi, a hefyd y mae yma dreiddgarwch a grymuster ym- adrodd. Sonia Gwenallt mewn un feirniadaeth eisteddfodol am