Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYD-FYW Gan O. E. ROBERTS II NID digwydd rywsut-rywsut y mae'r gwahanol blanhigion a welwn ni, na'r anifeiliaid a'r trychfilod a'r meicrobau yn eu mysg. Yn ystod treigl y miloedd canrifoedd daeth rhyw gydweith- rediad rhwng y gwahanol rywogaethau, nes ffurfio math o gym- deithas, sydd weithiau'n byw ar ei gilydd, ond ar y cyfan yn di- bynnu y naill ar y llall ac yn cadw mantoliad ansefydlog. Y mae i'r gwahanol rywogaethau eu lle arbennig yn y gymdeithas hon, yn union fel y mae i bobl o wahanol orchwylion eu lle neilltuol hwythau mewn cymdeithas ddynol. Dyna'r gweithwyr, y planhigion, eu gwyrddlesni'n ffrwyno goleuni'r haul yn ynni i'w ddefnyddio i greu siwgrau a phrotinau allan o garbon, nitrogen, hidrogen ac ocsigen (y cyntaf yn dod o'r deuocsid yn yr awyr, yr ail o'r nitrad yn y pridd, a'r ddau olaf o ddwr). Nid oes fodd i'r un anifail fanteisio ar yr elfennau syml hyn i ffurfio'i brotin a'i siwgr ei hun. Rhaid iddo'u cael yn y ffurf o brotin a siwgr llysieuol i ddechrau, a llysiau yw bwyd y radd gyntaf o anifeiliaid. Daw gradd arall o anifeiliaid, y cig- fwytawyr, i sicrhau eu maeth yn ail-law megis o'r anifeiliaid eraill a fwyteir ganddynt, nid yn uniongyrchol o'r planhigion. Pan fo'r anifail ei hun yn fyw, dichon fod iddo'i barasitau, a phan fydd farw gofala'r carthwyr nad erys gweddillion ohono. Bydd y dadfeilio olaf yng ngofal y bacteria, a'r pryd hwnnw dychwel y carbon i'r awyr a'r nitrogen i'r pridd. A dyna gau'r cylch, a'r elfennau yn addas i'w defnyddio eto i gychwyn cylch arall. (Fel rheol, y mae'r broses yn fwy cymhleth na hyn. Ni fwyteir pob planhigyn ac ni fwyteir llawer o anifeiliaid ychwaith. Gall coedwigoedd syrthio a'u carbon yn cael ei gloi wedyn mewn glo nes i rywun losgi hwnnw. Ond, yn fras, dyna'r cylch). Eithr, ar wahân i hyn i gyd, y mae i'r planhigion hwythau eu cymdeithasau arbennig eu hunain, y cwbl yn dibynnu, mewn gwirionedd, ar eu moddion i sicrhau'r ddeubeth hanfodol, goleuni a dwr. Trechaf treisied yw hi, fel Y manteisia un math ar draul eraill. Fel rheol, y talaf yn y gymdeithas a ddeil y mwyaf o oleuni'r haul, ond oherwydd hynny addasodd eraill eu hunain i'r amgylchiadau. Yn y wig bydd yn ami dri thyfiant, y coed tal,