Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DERYN DU GAN EMRYS EVANS SAFAI Jac Glas yn nrws ei dy, Nymbar 7, Hendre Ruffydd, ei goesau ar led a'i ddwylo ym mhocedi ei drowsus. Tynnai am ei ddeugain oed, ond edrychai yn hyn na hynny. Er ei fod yn fyrrach na'r cyffredin, 'roedd i'w wyneb esgyrn mawr; gên fawr sgwâr, ac aeliau trymion; talcen llydan a'r gwallt wedi cilio'n ôl oddi arno. 'Roedd ei grys wedi ei agor i'w hanner. Nid oedd ganddo ddim oddi tano. 'Roedd belt lledr a bwcl mawr pres iddo yn cynnal ei drowsus, ac am ei draed esgidiau rwber uchel a'u topiau wedi eu troi i lawr i'w hanner. Nid oedd gwahaniaeth rhwng lliw eu tu mewn a'u tu allan. Syllai Jac Glas i lawr y dyffryn ac i gyfeiriad y môr, a oedd yn rhimyn yng ngenau'r dyffryn. Yr oedd yn byw yn y ty uchaf yn y rhes uchaf o holl dai'r dref-tai Hendre Ruffydd. Tai gweith- wyr, pan oedd gweithiwr yn fodlon ar gegin a dwy lofft. Adeilad- wyd rhes ohonynt ar fin y ffordd a arweiniai i'r chwarel. Ond erbyn dyddiau John Glaslyn Jones — a rhoddi iddo ei enw llawn-nid oedd y ddau dy isaf yn y rhes namyn waliau moelion. 'Roedd y trydydd yn wag a thyllau mawr yn ei do, ac yn y pedwerydd 'roedd Huw Dafis a'i deulu o bedwar yn byw, gan ddisgwyl bob wythnos "symud i mewn i Dy Cyngor newydd". 'Roedd y pumed a'r chweched o'r tai yn wag ac yn dal i gadw'u toeau. Yna deuai ty Jac Glas a'i deulu o ddeg, a'r tri ola yn y rhes tu hwnt i obaith am adferiad. Oddi tanynt gorweddai tai y dref yn rhesi clðs, wedi eu trefnu ar lwyfan uwchben y dyffryn. Cyrhaeddent at droed y mynydd- oedd, y clogwyni a'r creigiau, gan lenwi'r llwyfan hyd ei ymylon. Ymwthiai rhai ohonynt i'r cilfachau, a dringo ambell ochr ac allt. O ddrws ei dy gallai Jac Glas weld y cyfan. Daeth wyneb i'r golwg rhwng ei goesau, wyneb plentyn dwy- flwydd oed. Edrychai dau lygad glas, mawr oddi tan gnwd o wallt wedi cacennu mewn anhrefn, ar y byd mawr oddi allan. Yn droednoeth, goesnoeth a thin-noeth, ei unig ddilledyn oedd gwasgod wlanen felen a gyrhaeddai at ei wasg. Crafangodd Daniel Rodney Aaron i fyny drwy gymotth coes ei dad, a sefyll ar flaenau'i draed i gael gwell golwg ar y byd mawr. Disgynnodd aderyn du-ei ddu yn berffaith, ac oraens ei big