Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DESIDERIO DA SETT I GNANO GAN DAFYDD OWEN (DESIDERIO DA SETTIGNANO (1428-1464) Cerflunydd Eidal- aidd, teilwng o'i athrawon enwog, Donatello a Vasari. Sefydlodd ysgol o gerflunio yn y bymthegfed ganrif. Ceir peth o'i waith heddiw yn Berlin, Fflorens, ac yn y Louvre, Paris). Flodyn yr Eidal, dy glod sydd ar daith A'i acen a glywir mewn llawer iaith Dringaist dros risiau llwyddiant, bob un- Cyn hir, byddaf wrthyf fy hun, fy hun. Mea dolores Mea dolores A gollaist dawelwch, arafwch hynt Hen bentref chwareli'r tywodfaen gynt ? Bu'r dyddiau, mae'n wir, yn felys, ddi-stŵr, Ond ffoled diddanwch plentyn i wr. Mea dolores Mea dolores A brofaist symbyliad aeddfedrwydd cêl ? A storiaist ei thegwch i'r oes a ddêl ? Eiddof yw cariad di-frad a di-friw Y fun nas carchara na maen na lliw. Mea dolores Mea dolores Ai balch Donatello a Vasari ffraeth O'r gwyrthiau a swynaist o'r mynor caeth ? Mud ydoedd f'athrawon o dynnu'r Hen Oddi ar fy ngosgeiddig Fadonna wen. Mea dolores Mea dotores Ai prinnach yw'r arian na'r geiriau clod ? Ai tlawd yw dy ddyddiau ? Ai gwag y god ? I'm bywyd mae moethau a choffrau llawn- (Mal gwynt erys arian, ac aur mal gwawn). Mea dolores Mea dolores