Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

hon, sylwodd G. B. Masefield, yn ei Agriculture in the British Colonies (1950), byddai cydbwysedd rhwng y boblogaeth werinol denau a'r amgylchedd. Yn ei African Survey (1938), ysgrifennodd yr Arglwydd Hailey: Os ceisiwn eglurhad ar y stori hir o grwydro llwythol yn y Canolbarth neu'r Dwyrain neu'r De, a'r canlyniadau a welir yn niffyg trigiannu parhaus a diffyg traddodiad lleol di-dor, rhaid inni edrych ar y cefndir daearyddol. Dros rannau enfawr, y mae'r pridd yn Affrica heb yr elfennau rheini a wna ddaliadaeth barhaus yn bosibl i ddibenion aredig, neu hyd yn oed i ddibenion pori. Nid dyfais farbaraidd yw amaethu symudol, ond yn hytrach addasiad a rydd gyfnodau hir o orfTwys ac adfywiad i'r pridd. Y gofyn am diroedd eang i ymsefydlu arnynt, oherwydd ansawdd y pridd, a fu'n gyfrifol am arferion crwydro, pa un bynnag ai gan y ffermwyr Is- Almaenig ai gan lwythau'r Aftricaniaid." Gellir cymharu'r darn hwn â chant a mwy o rai eraill sydd yn amrywio mewn amser o'r Arglwydd Dundonald yn 1795 hyd yr Athro Richards yn 1952. Awgryma'r dystiolaeth gref hon fod llawer mwy i'w ddweud o blaid amaethu symudol nag a gyf- addefir yn gyfíredin. Oherwydd mai ychydig o bentrefi parhaus sydd yn y wlad, ac mai byr iawn yw cyfnod amaethu o'i gymharu â chyfnod braenaru, hawdd y gallai sylwedydd, ar amser penodedig, gredu na wneid defnydd o'r tir ac nad oedd iddo feddianwyr. Yn y gred hon yr edrychodd yr Ewropeaid ar dir Rhodesia a Kenya, a rhannau eraill o Affrica. Canlyniad hyn oedd cyfyngu'r amaethwyr brodorol i fannau yn y tiroedd neilltuedig nad oeddynt yn ddigon i ffarmio yn ôl yr hen ddull o amaethu symudol. Os oeddem i osgoi trueni yn yr amgylchiadau hyn, yr oedd yn hanfodol i'r Ewropeaid ddysgu, ac i'r brodorion gael eu hyfforddi mewn dull o amaethu pur wahanol. Buddiol fydd sylwi ar y peth a ddigwyddodd yn y cyswllt hwn yn Kenya, er enghraifft. Fe gofir i Gomisiwn eistedd yn gynnar yn y tridegau i ystyried, ymysg pethau eraill, y sefyllfa amaethyddol yn nhiroedd neill- tuedig y brodorion yn y drefedigaeth hon. Dywedodd Dr. L. S. B. Leakey, yn ei dystiolaeth i'r Comisiwn, o'i brofiad yn Kabete a Limuru — O ganlyniad i'r dulliau a gychwynnwyd gan yr Adran Amaeth, aeth dinoethi'r tir ar gynnydd yn arswydus.