Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ef A mi yn dwyn, fy mun deg, Dy fryd, ys difyr adeg. Merch Ion i ddynion yn ddall, Ni cherit ym mraich arall. Oeddwn hapus, wefus win, A mwy breiniol na'm brenin. Hi Tra baut ffyddlon, galon gu, Gywired oedd dy garu Bu i mi uwchlaw pob merch Dy wres a nwyd dy draserch. Oedai dyddiau dedwyddyd A nef i mi, gwyn fy myd. Ef Ond bellach difyrrach fydd Dan iau fy nghariad newydcL Cain i mi yw cân 'y mun A'i dwylo ar y delyn. I dir ing neu i drengi Hawdd myned i'w harbed hL Hi I ddyn ddoe 'rwyf heddiw'n ddall, Wyf barod i fab arall. Mi gaf wres ei gynnes gôl A'i lun cadarn, lanc hudol. Er y llanc awn i'r gro llaith, I'w ryddhau hawdd marw ddwywaith. Ef Eilwaith pe dôi i'w aelwyd, A hi'n oer, dân ein hen nwyd A'n serch hen, beth os eirch o Â'i iau cadarn ein cydio ? Arall gariad os gwadaf Gennyt ai gwên eto a gaf f Hi Os yw arall fel seren, Ti, lon wr, wyt haul y nen.. Od anwadal dy nwydau Fe rannaf it y fron fau. Gwnawn gwlwm, yn dy gwmni Ar hyd foes y rhodiaf i. (Cyhoeddir drwy ganiatâd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaetholy DIGWERYL YW DAU GARIAD (Horas III, 9)