Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Hanes Datblygiad Gwyddoniaeth, gan Rhiannon a Mansel Davies. Hanes Cristionogaeth, gan Isaac Thomas. Cyfres y Brifysgol a'r Werin. Gwasg Prifysgol Cymru. 4/6 yr un. Emynau'r Daith, gan Nantlais. Llyfrau'r Dryw. 4/6. Meirionnydd, gan T. E. Nicholas. Gwasg Gomer. 1 /6. Y mae'r ddau lyfr cyntaf yn chwanegiadau buddiol at gyfres werthfawT. Eu hamcan yw rhoddi braslun o hanes gweithgarwch dyn mewn dau gylch o'i fywyd. Y mae maes y naill a'r llall ohonynt yn eang iawn a thoreithiog. Perygl llyfrau o'r fath yw ffaelu â dweud dim wrth y cyfarwydd, a bod yn rhy gryno a chyffredinol i fod o fudd i'r anghyfarwydd. Dywedir yn y Rhagair i'r ail lyfr mai amcan y gyfres hon yw ennyn diddordeb mewn testun ac nid ei ddisbyddu." Amhosibl fyddai disbyddu testunau mor fawT mewn gofod mor fyr, na rhoddi syniad cywir am amrywiaeth eu cynnwys. Eithr credwn i'r awduron hyn lwyddo'n dda yn eu hamcan penodol, a bod y ddau lyfr yn cyf- rannu rhywfaint at gyflenwi bwlch yn ein llenyddiaeth. Llyfr rhagorol yw Hanes Datblygiad Gwyddoniaeth. Edrydd hanes y prif ddatblygiadau gwyddonol o ddyddiau'r Eifftiaid a'r Swmeriaid gynt hyd y ganrif bresennol. Nid gorchwyl hawdd o gwbl ydoedd cyfleu'r wybodaeth hon mewn Cymraeg dealladwy oblegid hyd yn hyn nid oes gennym eirfa gydnabyddedig ac adnabyddus. Drwy'r Saesneg y dysgasom bron y cyfan a wyddom am offer ac elfennau a damcaniaethau gwyddonol, ac ymddangos- ant yn ddieithr inni mewn diwyg Gymraeg. Ond yn y llyfr hwn ymdrinnir yn eglur a ddiddorol â chyfraniad prif wyddonwyr y canrifoedd, eu damcaniaethau a'u harbrofion. Aeth rhai ohonynt­-megis Roger Bacon, Kepler, Galileo, Copernicus, New- ton a Darwin-yn rhan o hanes y canrifoedd o'r blaen. Ymysg enwau amlwg a berthyn gan mwyaf i'r ugeinfed ganrif y mae J. J. Thomson, Rutherford, Eddington, Einstein a Marconi- heb anghofio Marie Curie, y ferch fwyaf dawnus yn hanes gwyddoniaeth i gyd." Mentrwn gredu y bydd galw am y llyfr hwn i Ddosbarth- iadau Allanol o dan gyfarwyddyd athrawon hyddysg yn y maes. Ac i bob un a'i darlleno'n ofalus bydd yn addysg werthfawr yn ogystal ag yn help i gyfarwyddo â thrafod pynciau gwyddonol yn Gymraeg. Dywaid awdur Hanes Cristionogaeth mai ar ffurf darlithiau