Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

amser, oherwydd lliw golau ei lodrau, medrwn ei weled trwy'r gwyll, ond buan y diflannodd o'r golwg yn llwyr. 'Roedd y gard yn amneidio'n wyllt o flaen yr erlidwyr, a rhai o'r rheini erbyn hyn yn chwerthin yn braf. Pwy oedd y ffoadur ? gofynnais i un ohonynt. Cnaf yn teithio heb docyn," atebai'n bwysig. Gwyddem amdano ers tro llechgi twyllodrus ydyw ond nid oes digon ohonom i'w ddal. Y carchar yw ei le." Ni welais y truan byth wedyn. Yn ystod y gaeaf bûm yn meddwl amdano lawer tro, ac yn dychmygu ei weld gerllaw rhyw stesion, yn sefyll yn y glaw a'r eira, yn barod i neidio'n hyderus ar astell y trên a ddeuai heibio fel corwynt cyn bo hir. Ac weithion, yn ôl a ddarllenaf yn y papur hwn, dyma ddar- ganfod corff dyn wedi ei falurio'n yfflon gan olwynion y trên- ger stesion Albacete. Y teithiwr di-docyn, bid sicr. Nid oes angen rhagor o fanylion. Dywaid fy nghalon wrthyf mai ef ydyw. Y neb a gâr berygl a fydd marw ynddo. Efallai i'w ddeheurwydd arferol ei siomi'n sydyn neu efallai mai rhyw deithiwr dychrynedig-un llai trugarog na mi — a'i gwthiodd i lawr o dan yr olwynion. Y Nef- oedd a ŵyr sut y bu Aeth pedair blynedd heibio er pan welais ef," ebe Perez. Yn y cyfamser teithiais lawer yn y wlad hon ac mewn gwled- ydd eraill, ac wrth weled pobl yn teithio o ran mympwy noeth, neu i geisio alltudio diflastod o'u bywydau, troes fy meddwl fwy nag unwaith at y gweithiwr adfydus hwn­gŵr a ysgarwyd oddi wrth ei deulu gan dlodi, a gŵr a oedd-oherwydd ei awydd dir- fawr am weled ei blant-dan raid i gymryd ei hela fel anifail gwyllt, ac i herio marwolaeth heb rusio dim." Y Mae Mwy NAG Utf.­Daeth gwên o lawenydd i wyneb yr athro pan edrychodd dros restr y disgyblion yn ei ddosbarth, yn un o bentrefi Deheudir Cymru, ar Broblemau'r Dydd Heddiw.' O'r diwedd," meddai wrtho'i hun, y mae fy noethineb yn y pethau hyn yn cael ei gydnabod," oblegid yr enw cyntaf ar y rhestr oedd Ernest Bevin." Eithr diflannodd y wên pan welodd o dan y pennawd Galwedigaeth," nid Gweinidog Tramor," ond Gyriedydd lorri ludw." Ond pwy a faidd ddweud pa un o'r ddau ddyn a oedd yn gwneud y gwaith pwysicaf ?