Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

heblaw geni plant i ferched heb briodi, ac nid oedd na'r dirprwywyr, na neb o'u tystion, wedi awgrymu bod llawer o wragedd anffyddlon nae o ferched drwg yng Nghymru. Aeth y frwydr yn ffyrnig ac yn fudr ynghwrs y dadleuon a ddilynodd gyhoeddi'r Adroddiadau. Yr oedd ambell dyst wedi awgrymu i'r dirprwy- wyr fod y capelau yn gyfrifol am anfoesoldeb Cymru, a chyhoeddodd Brutus, yn Yr Haul, yn ei ddull cignoeth ei hun, fod "anniweirdeb a bastarddiaeth fel corph y farwolaeth yn y cynnulleidfaoedd ymneillduedig." Talodd Ieuan Gwynedd y pwyth yn 61 gyda llog drwy ddyfynnu ffigurau i ddangos mai'r unig ranbarth Cymraeg lle'r oedd cyfartaledd uchel o blant anghyfreithlon oedd y rhanbarth a gynhwysai goleg Eglwys Loegr yn Llanbedr. Taro'n ddidrugaredd, a hyd at waed, oedd y taro o boptu yn y frwydr alaethus hon. Dyna inni ateb bellach i'r cwestiwn. Beth oedd y Brad, a phwy oedd y Bradwyr. Rhoddi anfri ar eu cenedl i ddibenion plaid, dyna oedd y Brad rhai o'r Eglwyswyr a alwyd yn Fradwyr," a rhai o'r Ymneilltuwyr a roes yr enw hwnnw arnynt. Slogan boliticaidd gan yr Ymneilltuwyr oedd yr ymadrodd, Brad y Llyfrau Gleision," a diddordeb mewn hanes yn unig sydd ynddo i ni heddiw. O hyn ymlaen, gobeithio, fe all Ymneilltuwyr ac Eglwyswyr gyd-fyw a chydweithio â'i gilydd mewn cariad a thangnefedd. Dilynwyd Adroddiadau'r Dirprwywyr gan Fesur Addysg newydd y Llyw- odraeth, yn cynnig Grantiau sylweddol i gynorthwyo addysg, a chynhyrfodd hyn Eglwyswyr ac Ymneilltuwyr i ymroi ati i adeiladu mwy o ysgolion yng Nghymru. Bu raid i'r Ymneilltuwyr benderfynu a dderbynient hwy arian y Llywodraeth ai peidio. Credent mai peth crefyddol oedd addysg, a theimlai llawer ohonynt fod yr egwyddor Ymneilltuol a ymwrthodai â chysylltu crefydd â'r Wladwriaeth yn gorchymyn iddynt hefyd wrthod grantiau'r Llywodraeth tuag at helpu'r ysgolion. Dyna oedd safle Ieuan Gwynedd a Henry Richard, ac arweinwyr eraill yn y De. Ond yng Ngogledd Cymru barnodd yr arweinwyr yn wahanol. Gwell fuasai ganddynt hwythau, y rhan fwyaf ohonynt, i'r Llywodraeth beidio ag ymyrryd ag addysg, ond gan fod ysgolion yr Eglwys yn sicr o dderbyn y grantiau, ni allai ysgolion yr Ymneilltuwyr gystadlu â hwynt heb wneuthur yr un peth, ac felly penderfynodd yr Ymneilltuwyr yn y Gogledd dderbyn y grantiau. Dyna a wnaeth Ymneilltuwyr y De hwythau ymhellach ymlaen. Felly y symbyl- odd y Llyfrau Gleision arweinwyr Cymru, yn Eglwyswyr ac yn Ym- neilltuwyr, i fwy o weithgarwch ynglýn ag addysg y plant. Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn ? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn.-Llyfr y Pregethwr. Fe gollwyd rhywbeth o'r byd pan wareiddiwyd Nicaragua. — G, K, Çhesterton,