Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLYFRAU NEWYDDION Anthropos a Chlwb Awena Chàn, gan O. Llew Owain. Gwasg Gee. Pris 4 Brasdrem ar draws ac ar hyd o hanes y Clwb o'r dydd cyntaf hyd y dydd olaf "-cyfnod o chwarter canrif bron, 0 1908 hyd 1932, yw'r llyfr diddorol hwn, gan un o'i sefydlwyr a'i ysgrifennydd ar hyd y blynyddoedd. Braslun o Anthropos tu allan i'r Clwb a geir yn y bennod gyntaf, gydag enghreifftiau o'i ffraethineb pigog. Gwelir iddo yntau daro ar ei feistr yn y maes hwn wrth drin un o gantorion Nantlle. Yn yr ail bennod dadlennir, am y tro cyntaf, ddirgelwch sefydlu'r Clwb, y pwyllgor ar wal y cei, a'r alwad i Anthropos i fod yn gadeirydd-pennod ddiddorol dros ben. Cynllun gweddill y llyfr yw rhoi disgrifiad o weithrediadau'r Clwb, fwy na heb yn ôl trefn cynnal y cyfarfodydd, a dengys yr awdur ddeheurwydd nid bychan wrth roi bywyd a diddordeb mewn pethau a allasai fynd yn gofnodion sych. Gwelir y fath gyfoeth o ddoniau, mewn barddoniaeth, llên, cerdd, drama a chelfyddyd, a oedd yng Nghaernarfon a'r cylch, ac a gasglwyd at ei gilydd yn y Clwb. Nid rhyfedd, felly, yw gweld prif arwein- wyr y genedl ymhlith y gwyr gwadd a anerchai 'r Clwb ac a ymaelododd ynddo. Cyfrannai'r gweddill o'r pedwar can aelod at lwyddiant y Clwb drwy eu sêl ac yn ôl eu dawn. Ceir cip ymhob pennod ar y Cadeirydd — fel Uenor gwych, areithiwr byw, ei ddawn ddigymar i drafod cynulliad mor amrywiol, ei fIraethineb-digon tenau weithiau-ac urddas ei berson. Trwy'r hanes hwn dyry'r awdur ddar- lun inni o'r ynni a'r diddordeb a ddaeth gyda'r Deffroad Llenyddol ddech- rau'r ganrif-DefIroad y bu gan rai o'r aelodau ran amlwg yn ei gynhyrchu. Perlau'r Plas, gan George E. Breeze. Gwasg Gee. Pris 3/6. Stori ddirgelwch yw hon, hanes lladrata Perlau'r Plas, a anfonesid yno ar y goets fawr o Lundai n i Blas Orwig, a'r modd y daliwyd y lladron. Gyrrwr y goets fawr, Swàttow, a Bob ei fab, yw'r arwyr. Â Bob yn brentis o arddwr i 'r plas, ond gymaint yw e� hiraeth nes iddo ddianc adref y noson gyntaf, ac er ei fraw glywed sgwrs deuddyn yn y coed. Dyna'r pen llinyn cyntaf i ddatrys y dirgelwch. Diwedd y ddeunawfed ganrif yw cyfnod y stori, a cheir cipolygon ar arferion a bywyd y cyfnod hwnnw yng Nghymru-gyrroedd. y porthmyn, ymladd ceiliogod, lladron pen ffordd, gwersi'r Ficer, etc., ac er y teimlir nad yw'r pethau hyn yn hanfodol i'r stori y maent yn ddiddorol, ac yn llithro'n ddigon esmwyth i'r hanes, am mai mewn sgwrs rhwng y teithwyr ar y goets y deuant i mewn, fel rheol. Y mae'r stori'n un ddifyr, mewn iaith rwydd a syml, a apelia'n arbennig at blant. HUGH GRIFFITH Fy Mab Hwn, drama un act, gan Merfyn Ll. Turner; Joni Ni, drama un act, gan D. O. W. Harris (cyf., W. G. Richards) Perdito, drama gyffrous i ieuenctid, gan R. Bryn Williams; Rhaff, ffars un act, gan William Owen. Gwasg Gee. 1 /6 yr un. Trasiedi yw Fy Máb Hwn, yn rhoddi hanes gŵr a gollodd ei fab, John, yn y Rhyfel Mawr, a'i ymateb i'r drychineb. Trinir y sefyllfa'n gywrain o safbwynt Freud a'r seic-dreiddwyr. Bu'r sioc o golli'r mab yn ormod i'r gŵr gwrthododd wynebu'r ffaith, a ffodd i fyd ffantasi Ue y mae John