Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dangosir sut i sicrhan adfywiad dros dro drwy gyfeirio rhagor o weithwyr i'r chwareli, a thrwy wella amodau gweithio ynddynt. Dylid rhwyddhau'r ffordd i sicrhau peiriannau ar gyfer y gwaith, ac yn arbennig awgrymir y gellid cyfarfod â gofynion y farchnad yn well drwy ddileu unffurfiaeth haearnaidd y mesuriadau ynglyn â'r llechi. Ys gwn i, beth a fyddai barn chwarelwyr am hyn? O gymryd y camau hyn, cred Mr. Pritchard yr enillai'r diwydiant ei gyfran deg o'r farchnad am ysbaid. Beth wedyn ? Ar ôl haf bach Gŵyl Mihangel 0 lwyddiant, darogana Mr. Pritchard gyfnod hir o ddirwasgiad i'r diwydiant, oni rydd ei dy mewn trefn gyda chynlluniau sylfaenol. Y prif reswm dros y farn hon ydyw'r ffaith fod y llechen yn.debyg o golli ei thir ymhlith defnyddiau eraill at doi, a dywaid Mr. Pritchard paham y cred hyn. Cyn y gellir cael cynlluniau effeithiol rhaid sefydlu "worhing party" i'r diwydiant, a nodir beth fyddai maes ystyriaeth pwyllgor o'r fath. Dychmygaf weld rhai o berchenogion y ganrif o'r blaen yn troi yn eu beddau wrth glywed am y fath eofndra! Nid yw'n rhan o ddiben Mr. Pritchard o gwbl ymhelaethu ar hyn o-bryd ar waith y working party. Pan elwir arno i wneud hynny, gobeithiaf y rhydd gynnwys y memorandwm hwnnw hefyd i'r cyhoedd. O bryd i bryd bu chwarelwyr yn dadlau llawer mewn dosbarth a chaban am ddyfodol eu diwydiant, a hynny'n aml ar wybodaeth annigonol. Rhydd llyfr fel hwn gyfle iddynt i ddadlau yr un mor gyndyn, ond ar sylfeini llawer diogelach, a hyderaf y gwneir defnydd helaeth o'r llyfr hwn mewn cylchoedd trafod yn ardaloedd y chwareli yn ystod y gaeaf sydd yn dyfod. Owen Parry Yng Nghyfarfod Pen Blwyddyn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Rhanbarth Gogledd Cymru. ar Fehefin 22 eleni, cyflwynwyd swm o arian yn rhodd i Mrs. Silyn Roberts oddi wrth aelodau'r Gymdeithas, i ddangos <^u serch ati, a'u parch iddi am ei hymroddiad a'i hunan-aberth wrth wneuthur gwaith ei swydd pan oedd yn Drefnydd y Rhanbarth o 1930 hyd 1945. Dywedwyd llawer o eiriau caredig amdani, ond ni ddywedwyd yr un gair yn ormod. Dymuna Mrs. Roberts ddiolch yn gynnes iawn i bawb a fu'n trefnu'r rhodd hon, ac a gyfrannodd ati, am y teimladau da a fynegwyd ganddynt trwyddi, ac am eu cydweithrediad a'u cynhorthwy parod iddi ar hyd yr amser y bu'n gofalu am waith y Gymdeithas yn y Rhanbarth. CYFEIRIADAU Ysgrifennydd Cyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr—Ernest Green 38a St. George's Drive, London, S.W.I. Trefnydd, Rhanbarth Deheudir Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwvr — D. T. Guy, Swyddfa'r W.E.A., 38 Charles Street, Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr — •C. E. Thomas, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. Golygydd LLEUFER—David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnes LLEUFER—D. Tecwyn Lloyd, Pen-y-Bryn, Glanrafon, ger Corwen. Dosbarthwr LLEUFER—Mrs. Vera Meikle, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor.