Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLYFR NEWYDD The Slate Industry of North Wales: Statement of the Case for a Plan hy Dylan Pritchard. Gwasg Gee, 1/6. Gwaith da iawn ar ran Dylan Pritchard oedd cyhoeddi'r llyfr hwn. Dywaid yn y Rhagymadrodd sut y daeth i'w ysgrifennu-ar fyr rybudd- yn ffurf memorandwm ar gyfer trafodaeth swyddogol ym mis Ebrill diwaethaf Amcan y drafodaeth oedd ceisio darganfod sut y gallai'r diwydiant llechi godi rhagor o gynnyrch, ac un canlyniad iddi oedd sefydlu Pwyllgor y Prifathro Syr Frederick Rees, sydd yn eistedd ar hyn o bryd. Rhoddwyd awdurdod i'r pwyllgor hwn i drefnu cynllun ar gyfer diwygio'r diwydiant er mwyn diogelu ei ddyfodol. Credaf fod a wnelo stori eglur Mr. Pritchard yn uniongyrchol â sefydlu'r pwyllgor hwn, a gall ei longyfarch ei hun fod memorandwm am unwaith wedi cychwyn symudiad ymarferol pwysig. Byddai'n anodd i neb osgoi tynnu'r casgliadau priodol ynglyn â'r diwydiant, yn wyneb tystiolaeth Mr. Pritchard. O ffrwyth ymchwil rhai blynyddoedd, dywaid yn ddibetrus fod rhagolygon y fasnach lechi ymhen pum neu chwe blynedd yn wirioneddol ddrwg, yn enwedig os eir ymlaen yn ddigynllun, diamcan, fel y gwneir ar hyn o bryd. Pan sylweddoler beth yn union a olyga hyn i fywyd Arfon a Meirion, ac i Gymru i gyd, fe gytunir ar unwaith y dylem roddi sylw manwl i ddehongliad Mr. Pritchard o'r broblem. Y gwahaniaeth rhwng yr hyn a all ddigwydd yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf a'r rhagolygon ar ôl hynny sydd yn gosod llinell derfyn drwy'r llyfr. Yn y rhagarweiniad, dangosir mai diwydiant ar drai a fu'r diwydiant llechi ers hanner can mlynedd, er yr holl ofal am adeiladu tai. Y mae'rffigurau'n drawiadol — 634 mil o dunelli o lechi toi yn 1898, 268 mil yn 1937, ac 88 mil yn 1945. Sut i godi o'r trobwll isel hwn ydyw' r broblem uniongyrchol sydd yn wynebu'r diwydiant, a dyna destun ail ran y pwnc Y mae'r rhwystrau a awgrymir i unrhyw adfywiad yn ddiddorol iawn. yn arbennig y rhai hynny sydd yn codi o ochr dechnegol y diwydiant. Dangosir mor anystwyth y mae'r llechen yn ymateb i'r farchnad pan fo'r galw yn cynyddu, a hyn i raddau oherwydd natur y gwaith, ac i raddau oherwydd pechodau'r perchenogion yn y gorffennol. Phwystr pwysig arall ydyw diffyg llafur. Nid yw'r diwydiant ers blynyddoedd yn denu'r ifainc, ac felly y canol oed a'r hen erbyn heddiw ydyw mwyafrif y gweithwyr. Ar y mater hwn, gallasai Mr. Pritchard fod wedi dweud rhywbeth am agwedd arbennig y rhwystr sydd yn codi yn Ffestiniog oherwydd silicosis. a pneumoconiosis.