Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EISTEDDFOD UWCHALED Gan D. TECWYN LLOYD re oiynnwya imi wneud gwaitn anodd wrth ysgruennu r erthygl non, gwaith y buasai'n llawer haws i rywun arall sy'n byw ymhellach o Uwchaled na mi ei wneud. Fel rheol, nid yw'n anodd disgrifio Eisteddfod yng Nghymru rhywbeth yn debyg yw'r patrwm bob amser, a'r un, mwy neu lai, ydyw cynnwys y rhaglen. Dechrau gyda'r cystadleuaethau i'r ieuenctid, symud ymlaen wedyn at yr unawdau a'r adroddiadau unigol, a thaflu sypyn o feirniadaethau ar goginio, gwau, crefft llaw, a "droingio," i mewn i'r felin tra bo'r beirniad cerdd dant neu'r beirniad adrodd yn petruso a chnoi ei bensel mewn dryswch adolygol ynghylch haeddiannau yr ymdrechion a glywodd i osod Cloch y Llan ar dulathau Rheidiol, neu i argyhoeddi'r gynulleidfa mai Pantycelyn a aeth â'r maen i'r wal yn erbyn Cromwell. Stori ffraethbert yr arweinydd wrth ddisgwyl i'r corau fod yn barod; araith y llywydd sydd bob amser-wel, bron iawn bob amser- yn derbyn cymeradwyaeth ar egwyddor; wyneb di-sigl ac amhersonol iawn gẃr y wasg y mae ei dalcen yn gwawrio dros astell flaen y llwyfan ac wynebau pryderus Aelodau'r Pwyllgor Yr holl bethau hyn. Mor debyg! Yr oeddynt yn Eisteddfod Uwchaled, ac eto­a phrysuraf gyda'r "ac eto" hwn­yr oedd yno rywbeth arall hefyd sydd yn anodd i mi ei ddisgrifio Pe dywedwn ei fod yn rhywbeth mawr, buaswn yn ddifaddeuant o ystrydebol, heb sðn am niwlog; pe dywedwn fod yno safon uchel mewn rhai o'r cystadleuaethau, buaswn yn dweud gwirionedd digon amlwg í berson o America ei ganfod; a phe dywedwn fod yno firi a brwdfrydedd a chydweithio, fod yno gannoedd lawer o hogiau a gennod ieuainc a fydd yn trefnu'r eisteddfodau a ddaw eto yn y dyfodol o bob ardal o Ddyffryn Clwyd i Ddyffryn Ardudwy; pe dywedwn fod y trefniadau, o dan gad- fridogiaeth Dafis yr Ysgol yng Ngherrig yn hwylus a medrus, a phopeth felly pe dywedwn yr holl bethau hyn, buasent yn wir, ac yn debyg i'r hyn a ddywedwyd lawer tro o'r blaen am bob math o eisteddfodau drwy Gymru i gyd yn rhy debyg i haeddu eu dweud mewn erthygl ond yn flaenllinelI i adroddiad o'r hanes. Gallaf glywed rhyw ddarllenydd yn dweud: "Mae hwn yn trio gwneud mynydd o bridd gwadd." Nid felly: derbyniaf gyhuddiad o anfedrusrwydd, ond nid o anniffuantrwydd. Yr oedd rhywbeth yn yr Eisteddfod Gadeiriol hon. Ceisiaf ei adrodd. Y tu ôl i'r llwyfan, yr oedd rhes o enwau mewn preint bras; dyma rai ohonynt: Jac Glan y Gors; Tomos Prys; Edward Morris; Elis Wyn o Wyrfai; Tom Owen; Huw Evans; allu mawr eraill; gwrandawyr anweledig a thystion canrif wrth ganrif; radical y Seren tan Gwmwl; yr hen yswain a welodd rai o'r golygfeydd Llundeiniol hynny a elwir gennym ni heddiw yn broblemau, ond a alwodd ef-wel, darllenwch y Cefn Coch MSS: llenorion a beirdd, môr-ladron a chwyldrowyr; pob un yn ddyn byw llawn, yn ôl ei olau ei hun, a phob un yn ei dro wedi dringo'r Grong- lwyd, ac aros egwyl ar Faes y Llan ;-y mae'r Queen's wedi croesi ei phumcanmlwydd, cofier. Carolwyr a chywyddwyr, hynafiaethwyr. gwŷr lleyg a gwyr eglwysaidd, rhoes pob un ohonynt i Uwchaled y pethau hynny nad yw bywyd o fara yn unig yn gyflawn nac yn fywyd hebddynt. O gywyddau'r Cefn Coch hyd bryddest fuddugol William Jones oNebo eleni, y mae'r gadwyn yn ddi-dor, a phan ofynnai Caerwyn i William Jones