Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BETH A ALL ABCA El DDYSGU INNI Gan Emrys Jenrins Ym Mis Mawrth eleni, cynhaliwyd cyfarfod diddorol a defnyddiol i athrawon ein dosbarthiadau yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Anerch^yd ef gan y Lt.-Col. Broad, pennaeth yr Army School of Edutatioll, a fu am ran o gyfnod y rhyfel yng Ngholeg Harlech, a chan Capten Burdett, aelod o'i staff. Eglurodd y Lt.-Col. Broad egwyddorion ABCA (Army Bureau of Current Affairs), a'i dulliau o gynnal Grwpiau Trafod yn y fyddin ar faterion Cwrs y Byd, a rhoes Capten Burdett batrwm o drafodaeth ar Sbaen a'i Phroblemau, gan ddefnyddio ei wrandawyr fel Grwp Trafod. Cafwyd ganddo gyfuniad effeithiol o ddweud a gwneud, o gyfarwyddo a dangos. Yr oedd ynddo atgof am y dull a gam-arferwyd gan yr anfarwol Squeers, pan alwai ar hogyn i sillafu'r gair "window", ac yna ei anfon i'w glanhau. Yr Athro A. H. Dodd a oedd yn y gadair, a dywedodd fod y Lluoedd Arfog, wrth gychwyn cymhwyso'u Swyddogion at y gwaith o addysgu, wedi troi at y coleg am gynhorthwy. Eithr yn awr, meddai, wele'r olwyn wedi gwneuthur tro llawn, a'r fyddin yn cyfrannu o'i phrofiad arbennig ei hun o gynnal GrWpiau Trafod, ac o hyfforddi swyddogion i'w harwain. Edrych penaethiaid addysg y fyddin ar Ddull Trafodaeth fel y dull addysgol mwyaf elfennol, ond hefyd y dull mwyaf effeithiol gyda grwpiau o filwyr sydd yn amrywio'n aruthrol mewn addysg, crebwyll, a diddordebau, milwyr sydd hefyd yn cael eu gorfodi, fel y ceffyl yn y ddihareb, i fyned at y dwr, ond na ellir eu gorfodi i yfed ohono. Credant nad yw dull darlithio yn gyfaddas ar gyfer dynion fel y rhain; ni ddeffroai ddiddordeb na symbylu gweithgarwch meddyliol. Holi ac ateb, a hwnnw'n datblygu yn wir drafodaeth, dyna yn unig a enynnai gydweithrediad y GrWp, Gwaith Arweinydd y Grŵp, yn y Ue cyntaf, ydyw holi am ffeithiau'r pwnc sydd o dan sylw, ac wedyn, ar ôl ffurfio pictiwr cywir, os nad manwl, o'r ffeithiau, holi ám farn ar fater o opiniwn, a llywio'r drafodaeth. Rhoddir llawer iawn o bwys ar iddo ddarparu ei gwestiynau yn ofalus ymlaen Uaw, ac ymochel rhag gofyn "leading questions" (cwestiynau a fo'n awgrymu'r «itebiad a ddisgwylir), a chadw'n glir y gwahaniaeth rhwng ffaith ac opiniwn. Cymryd y gadair, ac nid y llwyfan, a siarad cyn lleied ag sydd bosibl wrth gyflwyno'i fater-dyna yw rhinwedd Arweinydd. Rhaid iddo uwchlaw pob dim ymgadw rhag darlithio. Ynfydrwydd fyddai ceisio rhoddi darlith, ac yntau heb fod yn arbenigwr yn yr holl bynciau lluosog a drafodir mewn Grŵp. Ond ni ddylai hyn ei rwystro rhag medru arwain trafodaeth yn effeithiol, dim ond iddo ddarllen yn ofalus y pamffledau rhagorol a ddarperir ar gyfer Grwpiau ABCA, a defnyddio'r Mapiau a'r Lluniau. Mewn gwirionedd, y mae' r ffaith nad yw yn arbenigwr yn fendith, oherwydd temtasiwn anorchfygol bron yr arbenigwr yw blino ar holi a thrafod, yn hwyr neu'n hwyrach, a bwrw iddi i ddarlithio. Gwell yr atebion mwyaf cloff ac anaeddfed gan y GrWP na'r traethiad mwyaf huawdl ac awdurdodol gan un yn sefyll o'i flaen. Oherwydd perygl mawr darlith yw creu agwedd meddwl oddefol yn y gwrandawyr. Rhaid eu hanesmwytho, a'u symbylu i weithgarwch meddyliol â chwestiynau. Y rheol euraid i