Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dyna enwau ychydig o weithiau ar y cyfnod clasurol, neu'r Dadeni, ac awdur diogel i bob un. Ond odid fe geir llyfryddiaeth ychwanegol yn rhai ohonynt, pe dewisai'r darllenydd eu ceisio. Dewisais i y rhai a enwyd oherwydd eu hansawdd dda. I'r sawl a ddymunai ddarllen hanes celfyddyd ddiweddar, ofnaf nad oes yr un llyfr cyffredinol da iawn am arluniaeth Ffrainc yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod nifer helaeth i'w cael yn Ffrangeg ac Almaeneg. Gallaf grybwyll tri yn Saesneg a fyddai'n ddefnyddiol i efrydydd hanes Celfyddyd, sef Nineteenth Century Art, gan D. S. MacColl; Landmarks in 19th Century Painting, gan Clive Bell; a Characteristis of French Art, gan Roger Fry. Ceir yn y ddau gyntaf syniad go dda am ddatblygiad arluniaeth yn Lloegr. Gweithiau diddorol eraill ydyw cyfrolau R. H. Wilenski a Charles Johnson ar y pwnc—Enish Painting. Gellir benthyca'r rhan fwyaf o'r llyfrau uchod trwy Lyfrgell y Sir. RHAI O AWDURON Y RHIFYN HWN D. T. EATON—Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Rydd Port Talbot. WILLIAM GEORGE—Cadeirydd y Bwrdd Canol Cymreig; Cadeirydd Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon. EMRYS JENKINS, y Rhos-Aelod o Bwyllgor Gweithiol y W.E.T.U.C. yng Ngogledd Cymru; Athro-a-Threfnydd Dosbarthiadau yn Sir Fôn, o dan Gyd-Bwyllgor Coleg y Brifysgol, Bangor. Y PARCH. IDWAL Jones, Towyn-Athro Dosbarthiadau yng Ngogledd a De Cymru. Llongyfarchiadau iddo ar ennill ar Stori Fer yn Eisteddfod Abcrpennar eleni. D. TECWYN LLOYD—Cadcirydd Pwyllgor LLEUFER, a'i Oruchwyliwr Busnes; Athro Dosbarthiadau yn Uwchaled, a golygydd Cefn Gwlad; newydd ei benodi yn Athro Hanes a Llên Gymraeg yng Ngholeg Harlech. Bob Owen, Croesor-Llyfrbryf, chwilotwr, fflangellwr; Athro Dosbaithiadau ar Hanes Lleol, a phynciau eraill. J. WYNNE PARRY, Llandrillo;-Cyn-fyfyriwr yn Ysgol Arlunio'r Academi Frenhinol; aelod o Ddosbarth Llandrillo; Darlithydd i'r Lluoedd Arfog. Owen PARRY, Llanegryn-Aelod o Bwyllgor Gweithiol y W.E.A. yng Ngogledd Cymru; Trefnydd Gogledd Cymru, Undeb Cenedlaethol Gwasanaeth Cymdeithasol. EMLYN ROGERS, y Rhos-Aelod o Bwyllgor Gweithiol y W.E.A. yng Ngogledd Cymru; Athro-a-Threfnydd Dosbarthiadau yn Sir Fflint a Dwyrain Sir Ddinbych, o dan Gyd-Bwyllgor Coleg y Brifysgol, Bangor. J Wyn Williams— Aelo4 o Ddosbarth Glan Pwll, Blaenau Ffestiniog.