Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PA BETH I'W DDARLLEN 6. AR Y CELFYDDYDAU CAIN GAN J. WYNNE PARRY "Celfyddyd ydyw'r datguddiad tragwyddol; nid oes arall Saif yn wrthrych uchaf i'r athronydd, canys egyr megis y lle santeidd- iolaf iddo." — Schelling: "Athroniaeth Celfyddyd Testun eang ydyw' r Celfyddydau, ac un o bwys i wareiddiad. Yn bennaf peth, cwrs hanes mewn gweithrediad ydyw; y mae'n gyfystyr ag astud- iaeth o ddyn a'i anghenion, yn faterol ac yn ysbrydol. Diamau, yng ngwawr hanes, fe gododd rhai crefftau o achos anghenion materol dyn; cychwynnwyd rhai eraill i gyflenwi ei anghenion ysbrydol; un ydynt oll Y mae pob rhan o'n hanian wedi eu cyfuno megis mewn unoliaeth fawr. Fe ddichon mai Rhyddid ydyw'r nod. Y peth trawiadol ynglyn â chelfyddyd-ac ni allwn wneud gwahaniaeth rhwng y celfyddydau sydd yn bodloni' r llygad (y Visual Arts) a barddoniaeth neu gerddoriaeth-ydyw bod eu gwraidd yng nghynyrfiadau dirgel ehaid dyn, a'u bod rywfodd yn fwy aneglur na gwyddoniaeth. Heblaw hyn, y mae Celfyddyd yn bod er ei mwyn ei hun, ac cs mynn rhai ddadlau mai o ddefodau crefyddol y cynfyd y deilliodd y celfyddydau, y mae hefyd Ie i gredu iddynt ffynnu o'u blaen, ac yn annibynnol arnynt. Y prif reswm dros gredu yn eu hannibyniaeth ydyw bod dyn yn greadur sydd yn caru'r prydferth, ac am hynny fe welir bod yr angen am greu yn gynhenid ynddo. Mor hyfryd i ddyn ydyw rhywbeth o waith ei law ei hun! Ni ddywedodd Schiller yn ei Rünstler y gair terfynol, felly; ar sefyllfa celrvddyd yn niwylliant y byd: nid digon dywedyd mai addysg gogyfer a'r prydferth, neu'r gwir, ydyw. Y mae'n sefyll, fel yr awgrymais, ar ei thraed ei hun. Ond beth, ynteu, ydyw' r prydferth ? Nid oes un athronydd hyd yn hyn wedi llunio diffiniad sydd yn ddigon manwl i fod o werth i'r ymchwiliwr. Yn wir, y mae perthynas arlunydd, neu weithiwr arall yn y Celfyddydau Delweddu (Plastic Arts), â'i oes, a pherthynas yr oes honno â chyfnodau eraill hanes,i'w gael yn gywir, fwy neu lai, mewn llawlyfrau. Ond er bod dyfod yn gyfarwydd â'r agwedd hon ar gelfyddyd yn beth gweddol hawdd, gwaith anodd ydyw astudio'r pwnc oddi ar safbwynt ceinofyddiaeth, neu athroniaeth celfyddyd. Credaf fod yr athronydd Schelling yn eithriad, ond yr oedd ef yn ymwneud â'r Visual Arts ei hun; ac y mae ei Philosophy of Art yn draethawd o werthfawrogiad yn ogystal ag yn feirniadaeth. Gweler hefyd Beatity and O^her Forms of Value, gan yr Athro S. Alexander. Ar y llaw arall, i'r neb a fodlono i astudio'r pwnc mewn dull mwy syml, ac efallai fwy materol, sef edrych arno o sefyllfa'r arlunydd, a gweled ei greadigaethau o'i safbwynt ef ei hun, y mae sicrwydd y daw yn gynt i gydymdeimlad a dealltwriaeth â'r pτydferth-a'í fwynhau. Canys mewn rhyw adran o gelfyddyd-a chaniataer imi gymryd arluniaeth yn esiampl- lle y mae iawn ddefnyddio'i gyfrwng yn cyfrif gymaint, a 11e y mae awch a delfrydau'r peintiwr yn dibynnu gymaint ar barodrwydd ymadrodd,