Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

H. G. WELLS GAN DAVID THOMAS Ysgrifennodd H. G. Wells, yn ystod ei oes faith o bedwar ugain mlynedd, rai ugeiniau lawer o lyfrau, ac 'rwyf wedi darllen bron bob un ohonynt. Cofiaf sut y deuthum i gymryd diddordeb yn ei weithiau gyntaf erioed, oddeutu'r flwyddyn 1902, pan gyhoeddodd ei Anticipations (Rhag- welediadau), a'i lyfryn The Discovery of the Future (Darganfod y' Dyfodol) Yr oedd wedi dechrau sgrifennu er 1895, a minnau wedi darllen adolygiadau helaeth yn The Review of Reviews ar rai o'i lyfrau, ac ar ei ysgrifau, Anticipations, a gyhoeddwyd yn un o'r cylchgronau misol, ond o'r diwedd dyma'r ysgrifau hynny i'w cael yn llyfr. Llanc ifanc ychydig dros ei ugain oed oeddwn i y pryd hwnnw, wedi gorffen fy mhrentisiaeth yn athroysgol, ac yn cymryd diddordeb anghyffredin yn amgylchiadau'r byd-wedi darllen Merrie England Robert Blatchford, er enghraifft, a chael gweledigaeth ar bosibilrwydd trefn gymdeithasol newydd a gwell. Yn dechrau sylweddoli hefyd peth mor gymhleth ydyw cymdeithas. ac wedi penderfynu, yn fy niniweidiW'ydd^Uunio cyfundrefn feddyliol i mi fy hun a fuasai'n esbonio'r cymhlethdod ìltJd. A dyma lyfr gan wr ifanc a oedd yn ymdrin â'r amrywiol bynciau y buaswn i'n ymboeni yn eu cylch, y llyfr difyrraf a mwyaf ffres ei feddyliau a ddarllenaswn erioed. Proffwydo oedd amcan ei lyfr-astudio tueddiadau'r ces, datblygiad moddion tramwy a chynnydd y gwyddorau, ac oddi wrth hynny ceisio ymresymu beth fuasai eu heffaith ar fywyd dyn, a pha newid a ddeuai ar gwrs y byd o'u hachos. Eglurodd ei safbwynt mewn anerchiad a draddododd gerbron y Royal Institution yn 1902, ar "The Discorery of the Future Gwyddem lawer iawn am Hanes Dyn ar y ddaear, meddai, eithr ni wyddem ond y nesaf peth i ddim am ei ddyfodol. Ychydig iawn a sgrifennwyd ar y pwnc hwnnw erioed, ac eto yr oedd y dyfodol yn bwysicach o lawer inni na' gorffennol (dyna syniad cwbl groes i'r r syniad traddodiad(,l). Trwy ragweled y dyfodol gallem baratoi ar ei gyfer, a hyd yn oed newid peth arno. Ie, medd rhywun, ond y mae gennym gofnodion ysgrifenedig o'r hyn sydd wedi digwydd, eithr nid oes gennym ddim gwybodaeth am yr hyn sydd i ddigwydd. Atebodd Wells mai am gyfnod byr iawn o hanes dyn y mae gennym gofnodion, a bod yr wybodaeth newydd a gawsom yn ystod y ganrif ddiwaethaf, a'r ganrif hon, wedi dyfod inni drwy gyfryngau eraill--drwy astudio achos ac effaith, a thrwy dynnu casgliadau oddi wrth bob math o wrthrychau a ddarganfuwyd yn y ddaear, a thrwy foddion eraill cyffelyb. Trwy ymresymu, ac nid trwy ddarllen cofnodion, y cawsom hyd i'r wybodaeth helaeth sydd gennym am hanes y byd am gannoedd o filoedd o flynyddoedd yn ôl, ac awgrymodd Wells y gallem drwy ymresymu yr un modd gasglu llawer o wybodaeth am ddyfodol dynoliaçth — drwy chwilio am "achosion mewn gweithrediad" (operating causes) yn lle am ffosiloedd. Proffwydo ydyw un o brif amcanion y gwyddorydd, meddai- proffwydo pa bryd y bydd diffyg ar yr haul, proffwydo pa beth a ddigwydd