Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSGRIFENNU CYMRAEG LLAFAR Gan JOHN MORRIS-JONES (Pan oedd Syr John Morris-Jones yn fyfyriwr yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, rhwng 1883 a 1888, byddai'n gohebu'n rheolaidd â'i ddau gyfaill, John Owen a William Edwards, ac y mae ei lythyrau atynt ar gael a chadw. Bu Mr. Owen wedi hynny yn brifathro Ysgol y Cyngor yn Llanfair Pwll Gwyngyll am 44 blynedd-bu farw yr haf eleni-ac y mae'r Henadur William Edwards yn dal o hyd yn ei swydd yn Gadeirydd Pwyllgor Addysg Môn. Rhywbryd rhwng 1886 a 1888 (ym mis Chwefror, y mae'n ymddangos), dechreuodd William Edwards ysgrifennu cyfres o lythyrau i'rpapurnewydd, Y Werin, ar batrwm "Llythurau Rhen Ffarmwr" Gwilym Hiraethog, gan gymryd arno mai gwas ffarm o'r enw Dafydd Jones a'u sgrifennai. Mewn llythyr at John Owen yr wythnos wedyn, beirniadodd John Morris Jones y llythyr cyntaf yn drwm. Dywedodd wrth William Edwards rywdro, ar sgwrs, "Pam na sgwenni di fel mae dy fam yn siarad ? Mae dy fam di a' m mam innau yn siarad yn berffaith". Yr wyf yn ddiolchgar iawn i Mrs. John Owen (chwaer Syr John) a Lady Morris-Jones a William Edwards am fod mor garedig â chydsynio imi gyhoeddi llythyr Syr John yn LLEUFER. Nid oes dyddiad arno, ag eithrio'r gair "Llun"). Anwyl Gyfaill Mi gefis i'r Werin o'r cartre ddoe. ThaI sylwadau Dafydd Jones ddim byd. Y maent yn rhy glasurol o'r haner. Pa sens sydd mewn rhoi geiriau fel standpoint a love-proof yng ngheg D.J. ? Yn lIe Valentine dylai ddweyd walamdeim customs house officer cseismon ? Yr ydym 'r ydan ni wrthyf wrtha i chwedl chadal merched (hogia) merchaid Ond nid yn unig y mae y geiriau yn annaturiol o gorect a chlasurol ond y mae y style yn rhy debyg i style papur newydd o lawer i fod yn naturiol i rywun f el D J I r cyfeiriad yna &c. Ddeuda hwsmon byth beth f el na. Dyma enghraipht eto "fe aeth y ferch ieuanc y bwriadwyd y valentine iddi &c" onid rywsut fel hyn y dywedai D.J.? "Mi ath y ferch ifanc oedd i fod i gael y walamdeim i'r fisid i dy honocafoddhi". Waeth gen i beidio na chael Dafydd Jones os na cha' i rel hen Ddafydd Jones yn siarad rêl hen Gymraeg Sir Von. Dyma'r style y buaswn i'n ysgrifenu ynddi. Tydw i ddim llawar o sgwenwr fuom i rioed yn trio sgwenu i bapur newydd o'r blaun am wn i, a tous gin i fawr o honi hi (fedrai fawr wrthi hi), chefis i ddim ond dau hanar dwrnod o ysgol rioud, ond mi ddysgis i spelio Cymraig yn ifanc iawn, ag ella do in sgwenwr go lew toc mistar pob gwaith di marfar, a chadal chitha ymhob gwlad y megir glew, mi dwi meddwl yn siwr y doi yn llawn gwell sgwenwr na Wil Huws beth bynag, ag fel rouddwn in deyd am Sion Jos go un iawn di Siôn am bob stori, roudd on deyd wrtha i ddou fod Sion twm wedi