Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ASTUDIO HANES PLWYF Gan BOB OWEN Ar wahân i waith rhai Eisteddfodau yn trefnu cystadleuaethau ar Hanes Plwyf neu Ardal, prin y cafodd hanes lleol sylw o gwbl gennym fel cenedl, ac y mae'r Saeson yn cwyno'n dost mai lled esgeulus ydynt hwythau yn hyn o beth yn Lloegr. Rhoddodd Cyngor Gwasanaeth Cenedl- aethol yn ddiweddar gryn bwyslais ar yr angen am ddysgu hanes lleol, a chyhoeddodd bamffledyn yn Gymraeg ac yn Saesneg i alw sylw gwahanol siroedd at bwysigrwydd hyn o waith. Bu'r Athro W. J. Gruffydd o amgylch rhai ysgolion elfennol ac uwchraddol ryw dair blynedd yn ôl, a gwelodd drosto'i hun mai dwl a thwp iawn oedd plant yr ysgolion yr ymwelodd â hwynt yn hanes yr ardal yr oeddynt yn byw ynddi. Cefais innau brofion lawer tro fod y plant a gyrchai i'r Ysgolion Uwchraddol yn ddiarhebol o anwybodus ynghylch hanes enwogion a thraddodiadau'r plwyfi y deuent ohonynt. Prin y cafodd y pwnc pwysig hwn ei gydnabod erioed yn bwnc angenrheidiol gan Bwyllgorau Addysg y siroedd, ag eithrio hwyrach Sir Ddinbych. Y mae'n wir fod rhai athrawon ac athrawesau mewn ychydig ysgolion yn awyddus iawn am i'r plant gael hanes eu hardaloedd, ond ni chafodd yr athrawon hynny erioed gyfle mewn na choleg nac ysgol i'w haddasu eu hunain at y gwaith, ac o'r braidd y caent gymeradwyaeth yr awdurdodau i wneud y gwaith, gan gymaint y galw arnynt i baratoi plant ar gyfer arholiadau i fynd i'r Ysgolion Sir, ac oddi yno i'r colegau. Pwysicach yng ngolwg rhai athrawon yw cramio meddyliau plant â phynciau sydd yn debyg o'u haddasu i gael mynediad i mewn i'r Ysgolion Uwchraddol. Edrychir ar ymenyddiau'r plant gan laweroedd fel mathau o boteli neu gostrelau, i ddal hyn-a-hyn o bethau y bydd yn angenrheidiol eu cofio ar ddydd yr arholiad, fel y gallont ennill marciau uchel mewn ychydig o bynciau cyfyngedig. Peiriannau cofio ydyw'r plant, megis, am ryw gyfnod o dri mis o flaen yr arholiad blynyddol, i'w harllwys neu eu chwystrellu allan ar ddydd y praw. Nid oes gan yr athrawon sy' n chwenychu gweld hyn-a-hyn o blant eu hysgolion yn ymddangos yn ddisgleirwych yn Adroddiadau'r Arholiad mewn pedwar neu bump o'r pynciau angenrheidiol yr un gronyn o gydymdeimlad â Hanes Lleol. Mwy gogoneddus yn eu golwg hwy ydyw cael deg neu ddwsin o blant disglair mewn arholiadau ar Rifyddiaeth ac Iaith na chael llond ysgol o blant a fo'n gwybod tipyn am y cylch y maent yn byw ynddo. Nid yw pob ysgolfeistr chwaith, diolch am hynny, yn euog o'r gwendid hwn; fe ddarpara rhai fapiau ar barwydydd eu hysgolion i ddynodi enwogion y cylch neu'r cwmwd; ac mewn rhai mannau ceir stribed o enwau gwyr enwog o amgylch yr ysgol. Ond y drwg yw hyn-wedi i'r ysgolfeistri hynny ymgysegru i'w gwaith, yn ogystal â rhoddi gwersi i'r plant ar hanes enwogion, blodau, coed, crefftau, a phethau cyffelyb, nid oes yr un praw yn cael ei roddi ar eu gwybodaeth am y materion hyn. Ni ddylai'r plant fod yn ddwl yn y pethau sydd yng nghylch eu cynefin a'u cylchfyd. Ysywaeth, y mae llawer iawn o dermau plwyf, enwau arfau a chelfi amaeth, a phethau felly, yn rhywbeth na wyr plant yr oes hon ddim amdanynt. Y mae'r ffaith eu bod wedi eu cyfyngu rhwng waliau ysgol am dymor hir o'u