Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"Twt lol, mae'n rhaid ichi fyta", meddai hi, "ne mi fyddwch chitha'n gorff eto." Gwelodd fi'n dyfod i mewn, ac am y tro cyntaf erioed daeth croeso i'w lygaid. "Gyrrwch y ddynes yma i ffwrdd", meddai wrthyf, ac amneidiais innau arni i ddyfod allan. "Triwch chi ei gael o i gymryd tamaid", meddai, wrth ddyfod allan. "'Rhen greadur, mae o mor dena' â ffrâm beic." Ceisiais gysuro hen greadur orau y medrwn, ond wedi imi gael gwared o Meri Hanna nid oedd ganddo ddim diddordeb pellach ynof innau. Eisteddai yno, gan syJIu'n hir i'r fflamau a mwmblian, "Ngeneth fach i, ngeneth fach i", trwy ei wefusau crynedig. Ceisiais ei gael i siarad am ei golled, ond ni wnâi ddim ond murmur ei henw — "Ffanni James­Ffanni James Yna, yn sydyn, cododd ei ben ac edrych arnaf, trwy'r cudynnau hirion o wallt gwyn-felyn. "Mae ar ben arna i rẃan", meddai. "O, na", meddwn innau. "Fe gawn ni rywun i edrych ar eich ôl chi eto." Ysgydwodd ei ben, a thorri i grio fel babi. "Na", meddai, trwy ei ddagrau. "Cha' i neb i wneud pwdin reis 'run fath â hi." Yn Rhifyn yr Haf, adroddodd y Parch. Thomas Lloyd rai atgofion am Emrys ab Iwan a gawsai gan hynafgwr. Adwaenwn innau unwaith hen ^ŵr a fuasai'n ffarmio am flynyddoedd yn Nyffryn Clwyd. Holais ef am Emrys ab Iwan, ond ni chlywsai erioed mo'i enw. Fel yr awn ymlaen i sôn amdano, fe wawriodd o'r diwedd ar feddwl yr hen ffarmwr am bwy y siaradwn. "O", meddai, "Ambrose Jones ydech chi'n feddwl. Dyn ardderchog oedd Ambrose Jones. Mi fedrai Ambrose Jones", meddai, fel pregethwr yn dechrau mynd i hwyl — "mi fedrai Ambrose Jones guro unrhyw dwrnai yn Rhuthun am i ddannedd. A dyna' r pryd y sylweddolais am y tro cyntaf pwy ydyw gwir arwr y ffarmwr Cymreig­dyn sydd yn fistar corn ar dwrnai! Y mae'r werin yn meddwl llawér iawn mwy am anghydraddoldeb ceffylau nag am gydraddoldeb dynion. — G. K. Chesterton.