Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GOLLED ERCHYLL GAN Idwal Jones ■» Y mae'r Hybarch Ddoctor Puw, Llanddoli, wedi marw er deg o'r gloch fore heddiw, yn ddeuddeg a phedwar ugain oed. Wythnos i heddiw, o fewn hanner awr i'r un amser, bu farw 'rhen Ffanni James, a fu'n gweini'n ffyddlon ar yr hen gawr am yn agos i hanner canrif, ac a fu a'i henw'n adnabyddus drwy Gymru gyfan ar un adeg. oherwydd yr helynt mawr yn Llanddoli. Y mae'n debyg fod rhai ohonoch chi, y rhai hynaf ohonoch, yn gwybod mwy am yr hen Ddoctor nag y gwn i, er imi fod yn olynydd iddo yn y Tabernacl yma ers dros wyth mlynedd bellach. Y mae'n bosibl hefyd y gwyddoch yn well na mi am yr helynt mawr a fu trwy'r enwad oherwydd ymlyniad ystyfnig yr hen batriarch wrth ei Ffanni James. Unwaith erioed y clywais i ef yn pregethu, a hynny yn y Gymanfa Fawr yng Nghaernarfon pan oeddwn yn llefnyn rhyw ddeuddeg oed. Yr oedd hynny, wrth gwrs, wedi'r miri yn Llanddoli, pan oedd 'rhen Ddoctor yn ceisio ennill ei Ie yn ôl ym mhulpudCymru. Ychydig a feddyliais i-na neb arall, 0 ran hynny-y noson honno ym Mhafiliwn Caernarfon, mai ceisio dilyn yr hen gawr fel gweinidog yn y Tabernacl, Llanddoli, y buaswn i yr awr hon. Yr oeddwn yn hen gyfarwydd â'i enw cyn imi erioed na'i weld na'i glywed ef ei hunan. I Nhad, Doctor Puw Llanddoli oedd tywysog pregeth- wyr Cymru, a chrwydrodd, yn llythrennol, gannoedd o filltiroedd i'w wrando; fe ffraeodd fwy â'i gydweithwyr yn y chwarel, ac â'i gyd- swyddogion yn y capel, oherwydd yr hen Ddoctor nag oherwydd neb na dim arall. Wrth wrando ar "'Rhen Landdoli", fel y galwai ef, y gwelodd Nhad y golau mawr, a chwarae teg i'r hen ddyn, ni phallodd ei deyrngarwch iddo holl ddyddiau ei fywyd. Collodd wythnosau o waith, o dro i dro, i grwydro Môn ac Arfon i wrando'r hen Ddoctor pan ddeuai ar ei deithiau o Landdoli. Pan ddaeth y sôn y byddai'n pregethu yn y Gymanfa Fawr ym Mhafiliwn y Dre, 'doedd na byw na marw a allai gadw Nhad rhag mynd â'i deulu'n gyfan yno i'w glywed. Hwyrach fod yr ugain mlynedd sydd rhwng y diwrnod hwnnw a heddiw wedi chwanegu at ramant a chyfaredd y noson honno, ond yr wyf yn berffaith siwr mai dyna'r oedfa fwyaf y bûm i ynddi erioed. Tybed, a oes rhywun ohonoch a oedd yn y Pafiliwn y noson honno ? Y mae'n siwr fod, ac fe ellwch ategu yr hyn a ddywedaf. Rhyw ddeuddeg oed oeddwn i, a waeth imi heb â meddwl bod yr oedfa wedi newid cwrs fy mywyd o'r awr honno, ond mi wn hyn yn siŵr- — dyna'r pryd y trawodd ar fy meddwl gyntaf mai pregethu'r Efengyl oedd yr alwedigaeth fwyaf nobl yn y byd yma. Yr oedd yr hen Bafiliwn dan ei sang. Robert Huws, Llwyn Du, a laddwyd yn y Rhyfel diwaethaf, oedd yn pregethu'n gyntaf, a chafodd oedfa rymus, 'rwy'n cofio. Sôn am ganu cynulleidfaol Bobol bach, 'roedd to'r hen adeilad yn gwegian wrth geisio cadw'r gorfoledd i lawr. Ac yna, dyna'r hen Ddoctor ar ei draed i roi ei destun. Yr oedd ymhell dros ei